26.9.09

Oinc Oinc

A finna wedi perswadio'n hun na imiwnedd isel i jyrms plant oedd gin i, dyma fi yn darllen am symtomau ffliw moch:

unusual tiredness, a
headache, a
runny nose, a
sore throat, a
shortness of breath or cough, a
loss of appetite, a
aching muscles, a
diarrhoea or vomiting. r

7 allan o wyth ddim yn arwydd da...

Dwi'n glaf da pan yn gwbl iach, neu pan dim ond syniad o annwyd sydd gin i. Ond pan dwin sal go iawn , ac yn gaeth i'ng ngwely, dwi'n ofnadwy. Mi onin sal yn fy ngwely am ddau ddwrnod a hanner, a di cal digon ar ol yr hanner dwrnod.

Mi oedd isda yn gwely yn gorfod gwylio teli mor ddiflas. Roedd edrych yn brifo, roedd gorwedd yn brifo a doedd dim yn helpu. Blaw cwyno.

Ond, dyna ni, dwin well wan oni bai am y peswch a'r annwyd a'r diffyg apyteit. Felly dyma fi yn nhy f'annwylyd yn trio ffindio job. Gai fynd nol i'ng ngwely plis?!

Hwyl a sbrii

10.9.09

Heb ddim gwell i'w wneud

Teimlaf weithiau mod yn greadures ryfedd.

Mae fy llofft i yn fler iawn. Does dim geiriau i ddisgrifio pa mor fochaidd ydi'r lle. Dillad a sbwriel (dim budredd dim ond ambell i dag dillad, ambell i focs carbod a chyffelyb) ym mhob man ar hud y llawr. Tydwi ddim yn mwynhau bod yno o gwbwl, a ma gin i gywilydd bob tro mae fy nheuly neu fy nghariad yn mynd yn agos at y lle.

Mae gin i waith ysgol i'w wneud at wythnos nesaf. Dwin gwybod y fyddai'n ei wneud o nos Sul, yn benmawr ac yn flin. Yn difaru f'enaid na wnesh i o gynt.

Mae hi'n anhygoel o braf tu allan. Yr haul yn disgleirio am y tro cyntaf ers misoedd a finna tu mewn yn cuddio. Fel y daw'r haul allan, mi af innau i mewn. Mae pawb arall yn bocha yn yr ardd a dwin shwr fod na ddigon allwn innau wneud i helpu.

Be dwi'n neud? Isda'n fama wedi diflasu. Edrych mewn i'r pellter rhwng fy llygaid a'r sgrin yn awchu am wbath i neud. Natur ddynol ta od?

Hwyl a sbrii

Esgusion?!

Esgusion? Be ddoth dros 'y mhen i?! Esgusodion shiwrli?! Ie?

Hwyl a sbrii

9.9.09

Esgusion

Tydwi heb deimlo fel blogio yn ddiweddar, ymddiheuraf!

Fy esgus cyntaf yw fy mod yn anhygoel o brysur. Brysur dros yr haf yn gwneud dim byd, yn mynd ar wyliau, yn mynd am beint neu ddeg gyda ffrindiau, yn cael amser gwerth chweil. Brysur ers y cyntaf o Fedi yn bod yn athrawes. Go iawn. Efo cyfrifoldebau a sdwff.

Fy ail esgus yw twitter. Os dwisho "ventio", mi wnai dros hwnnw yn lle dod at f'annwylyd flog a gneud yn fan hyn. Rhyfedd mod yn gallu dweud mewn 140 llythyren beth sydd yn cymryd 10 gwaith mwy mewn blog. Ond dyna ni.

Fy esgus olaf yw nad oes llawer o flogwyr eraill dwi'n dilyn yn blogio chwaith. Dwi'n gwybod fod hwn yn esgus gwael ond mae'n esgus er hyn. Dylwn i fynd i chwilio am fwy o bobl i'w dilyn er mwyn gwneud yn siwr na allaf ddefnyddio hwn fel esgus eto.

Er hyn gyfeillion annwyl, nid yw'r blogiau am farw. Bydd gennyf wersi rhydd fel hyn yn wythnosol lle dylwn i fod yn gweithio. True to form, byddaf yn peidio gweithio ac yn blogio'n lle (drwy ebost; sori am yr adfyrts ar y gwaelod!).

Felly am nawr, rhaid bodloni ar restr o esgusion. Gobeithio fodd bynnag, yn fuan; normal service will be resumed!

Hwyl a sbrii

31.8.09

Ysbrydoliaeth

Tra yn yr eisteddfod (sydd yn teimlo mor bell yn ôl bellach!) mi oeddwn yn teimlo'n yn ysbrydoliedig iawn.

Tra yn yr eisteddfod mi oedd y llyfr bach yn fy mag yn cael lot o ddefnydd. Mi gafodd ambell syniad am gan ei nodi, ambell gan ei sgwennu, blogiau diri eu dychmygu a dwdls athrilythol eraill ei jotio.

Tra yn yr eisteddfod mi oedd gen i wir fwriad o sgwennu mwy o ganeuon a dechrau charae yn gyhoeddus eto (ddim fel baban sgwiral troma, peidiwch a poeni!).


Tra yn yr eisteddfod, mi oeddwn i'n ffwl. Dwi adra ers bron i fis ac er fodna ambell gord wedi'w chwarae, dim byd allai hydnoed ddychmygu sydd yn dda. Dwi heb flogio, dwi heb ymestyn caneuon, dwi wedi gwneud dim o'r plania gwych na odd gin i. Zilch. Nada. Nothing.

A ma ysgol yn dechrau fory. Pryd andros dwi fod i gael amser i fod yn blogio pethau diddorol, perfformio fy nganeuon anhygoel, ricordio fy best selling album cynta A dysgu mathemateg?!

Hwyl a sbrii

15.8.09

16 noson

Ar ôl
2 noson yn dolgellau;
8 noson yn sdeddfod;

4 gwlad mewn 3 diwrnod;
a peint a gwin yn beddgelert, dwi adra. O'r diwedd. Nos da. Hwyl a sbrii

30.7.09

Diflannu

Dwi am ddiflannu oddi ar gwyneb y ddaear am bethbynnag pythefnos.

Dwi'n mynd i gampio ochra dolgella/machynlleth am ddau noson efo rhieni f'annwylyd, wedyn dwin mynd syth i'r eisteddfod am wythnos, ac ar y dydd Sul, ma rhieni'ng nghariad yn fy mhigo i fyny o'r sdeddfod am 8:00yb a denin mynd i Lundain am 2 noson a wedyn Belgium am ddau noson.

Dwi di bod wrthi drwy'r dydd yn trio pacio am wyliau tent a gwyliau hotel. Mana fagia ym mhobman a dwi shwr o fod wedi anghofio rwbath ond dyna ni. Ma popeth yn charjo tan y funud ola er mwyn cal y maximum defnydd, ma'r car wedi'w lwytho a dwi ar fin cychwyn.

Mi driai dwittro ond fel arall, welai chi ganol mis Awst!!
Hwyl a sbrii

22.7.09

Cuddiad

Dwi'n stymblo o dro i dro - yn enwedig dros yr haf pan mae gin i lawer i'w wneud ond ddim terfyn amser penodedig er mwyn ei wneud. Eistedd yn ymyl fy nghyfrifiadur, yn aml yn hanner wylio teledu, tra'n taro cipolwg ar wefanau diflas/diddorol/danteithiol (mana lawer o lunia neis o fwyd yn dod i fyny ar f'un i!).

O dro i dro mi ddof ar draws gwefan sydd yn tynnu fy sylw ddigon i'w ddarllen yn fanwl.

A dyma'r un diweddara'. Ma'n apelio at fy ochr plentynaidd, yn sicr; yr ochr ohonof oedd yn gwylio Art attack pan yn fach ac isho gneud bob dim. Yr ochr ohonof oedd yn llenwi llyfrau diri gyda lluniau a "captions" (e.e. "dyma mam a dad a fi wedi bod yn siopa yn wylwys port").

Mae hefyd yn apelio at yr ochr ohonai sydd yn licio pethau cudd. Pan fyddai'n gyfoethog ac yn/neu'n enwog ac yn cael fy nhy delfrydol, mi fydd yno wal o silffoedd llyfrau gyda un llyfr (â thheitl eironig wrth sgwrs) yn agor drws cudd. Mi fuasai'n hwyl felly cael llyfr/au gyda llefydd cudd ynddo/ynddynt yn y wal yma o silffoedd llyfrau!!

Wedi chwilio mewn amryw o siopa am lyfr oedd yn ddel, yn ddiwerth (gan fod rhaid i mi dorri'r tu fewn!) ac yn berchen teitl eironig, dwi di setlo am lyfr del nad oes gennyf ddiddordeb ei ddarllen. Os ydi hwn yn gweithio, mi chwiliai am un a theitl eironig yn y dyfodol; pan fydd y syniad llai ar fy meddwl (ac felly gallaf dreulio mwy o amser yn chwilio!).

Duw a ŵr be dwi am roi yn y llyfr cofiwch!

Hwyl a sbrii

11.7.09

Y fo

Ma'n cerdded i mewn i'r stafell ac yn cerdded syth at y bar. Ar unrhyw un arall mi fuasai crys hawaiian o dan blazer yn edrych yn wirion ond ddim arno fo. A mae o'n gwybod hynny.

Mae o wedi cyraedd ers llai na munud ond yn barod mae na gylch wedi ffurfio yn y dorf o'i gwmpas. Pawb yn ei gyfarch fel na nhw sydd yn ei adnabod orau; yn gafael o'i amgylch; yn chwarae efo'i wallt. Faint ohonyn nhw sydd yn breuddwydio amdano?

Fo ydi calon y parti. Mae cymaint a hynny yn amlwg. Y gwen ar ei wyneb yn dangos i bawb mai dyma sut y mae pethau i fod. Mae'n sicr o'i hun ond ddim mewn ffordd hull. Ddim mewn ffordd hull o gwbl.

Pan mae'r sylw yn lleihau am eiliad, mae'n cymryd golwg sydun o amgylch yr ystafell. I weld beth sydd yn digwydd, pwy sydd yno ac ati. Mae'n aros am fwy nag eiliad ar y ferch sydd yn sefyll yn fy ymyl.

Ond dwi'n gwybod mai meddwl amdanai mae o.

Wedi'w ysbrydoli gan berson go iawn ond ddim yn gyfan gwbwl! Hwyl a sbrii

5.7.09

Dynion Barfog

Eshi i chwilio drwy'r archifau am y blog yma cyn cychwyn sgwennu hwn.

Y tro hwn, roedd rhaid trafeilio ymhellach i weld Eric Bogle. St Helens ger Lerpwl. Roeddo'n chwarae yn y Citadel yno. O'r wefan, mae'n trawo fi fel lle y cynhelir discos yn amlach na cyngherddi gwerin, ond dyna ni.

Dyma ni yn cyrraedd am 7:20, gyda'r gig i fod i gychwyn am 8. Dyma ni'n trio'r drws ond roedd o di cloi - drysau ddim yn agor tan hanner awr wedi yn ol y dyn tu ol i'r drysau gwydr. Dim problem, mi oeddwn i'n gwbl fodlon eistedd tu allan am ddeg munud.

Ni oedd y cynta yno, yn aros fel 4 folk geek tu allan y drws. Yn fuan bethbynnag, dyma na bobl erill yn cychwyn cyrraedd. Am gyfnodd, roedd gan pob dyn farf. Dwnim be ma huna'n ei ddweud am ffans cerddoriaeth gwerin, ond dyna ni! Tra'n aros, daeth y dyn ei hun allan a heibio ni i gael smôc rownd gornel. "Good evening" medda fo wrtha ni. Daeth brawddegau megis "wi âr ior bigyst ffans" neu "ai now ôl iôr songs" i'n penau ond drwy lwc "good evening" medda ni yn ôl.

Hanner awr yn ddiweddarach, dyma ni i mewn. Roedd y gig yn hyfryd. Roedd y lle yn llawn ond roedd yn le mor fach roedd yr atmosffer yn wych. Ac er fod rhai o'r dorf yn canu gyda'r caneuon yn mynd ar fy nerfau o dro i dro, roedd yn creu atmosffer gwych adegau eraill.

Ar ôl y gig, pan yn prynu nwyddau, mi geshi'r chord book wedi'i arwyddo gan John munroe ac Eric Bogle. Mi oeddwn i'n trio'n galed iawn i beidio bod yn "ffan" fel y bobl erill ("we sing your songs here all the time"). Drwy wneud hyn, mi ddywedish i "thank you" lot o weithia.

Swish.

Ah wel.

Hwn ydi ei daith olaf o gwmpas prydain sydd yn bechod mawr ond yn ddealladwy. Bydd rhaid mynd i Awstralia i'w weld tro nesa. Bechod de!

Hwyl a sbrii

8.6.09

Diwrnod Da

Mae gan bobl sawl ffordd o ddweud os yw diwrnod yn mynd i fod yn dda neu beidio.

Mae rhai pobl yn gweld os allen nhw gerdded o ryw fan i fan arall heb sefyll ar graciau yn y palmant. Os ydyn nhyw'n llwyddo, yna mae hi'n ddiwrnod da!

Efallai fod pobl eraill yn gweld os ydynt yn gallu deffro o flaen eu larwm; neu ei droi i ffwrdd cyn iddo gychwyn canu. Mae un o fy ffrindiau, mi wn, yn gwneud hyn.

Ond ddim fi. O na. Mae gin i ffordd unigryw fy hun. Ar y ffordd i coleg/gwaith mae'n rhaid fi newid "lane" cyn rowndabowt. Os ydwi'n gallu gwneud hyn, heb fynd dros llygaid cathod (dim rhai go iawn) yna mi fydd hi'n ddiwrnod da. Dwi lot gwell yn gwneud hyn erbyn wan.

Mae gin i ddau broblem gyda hyn:
  1. Dwi ddim yn ofergoelus ac yn falch o'r ffaith. ond eto mae'r un ffaith fach yma yn effeithio ar fy niwrnod i?! Dariau!
  2. Mae'r sgil o "swerfio" ychydig yn berryg. Os gai byth ddamwain, yn gwneud hyn gai o....
Hwyl a sbrii

21.5.09

Pethau bach nigli

Mae gan fy nghariad fag ger ei wely i ddal rimôt contrôls. Sydd yn syniad gwych (fi ddoth fyny gyda'r syniad) a mae'n gweithio yn dda. Handi iawn.

Ond, a mae o'n ond mawr yn fy marn i. Mae yna rimôt contrôl yn y bag i'r fideo. Digon teg, ydi, ond dydi'r fideo ddim wedi'w droi mlaen na'i blygio i mewn. Dydi'r fideo heb gael ei ddefnyddio ers blynyddoedd!

Yn waeth na hynny, pan ydwi'n rhoi fy llaw i mewn i chwilio am un o'r rimôts, mae ganddyn nw gyd eu nodweddion sydd yn fy ngalluogi i bigo'r un cywir allan heb edrych; mae'r un chwaraewr cd yn llai, ma'r un teli yn grwn ayyb. Ond, ma'r un fidio bondigrybwyll 'ma yn teimlo fel bob un. Bob tro dwi'n chwilio am rimôt, hwnnwn dwin estyn gyntaf.

A dwi wedi dweud hyn wrth f'annwylyd, sawl gwaith. Ond mae o'n gwrthod gadael i mi ei dynnu o'r bag rhag ofn. Rhag ofn iddo fo fod eisiau gwylio fideo am y tro cyntaf ers tua mil o flynyddoedd, rhyw ddydd a methu ffindio'r rimôt.

Dwi'n ama erbyn wan fodo'n cadw'r rimôt yno i fy ngwneud yn flin. Mae'n gweithio.

Grrr! Hwyl a sbrii!

(ar nodyn gwell, dwin gorffen gweithio yn yr ysgol uffern fory! Wooo!)

26.4.09

Cyfathrebu (lack of)

Tydwi ddim yn dda iawn yn cyfathrebu - wnai ddim rhoi hwn fel un o fy sgiliau ar fy cv o bellffordd. Dwi'n cael trafferth mawr i siarad efo bobl. Does gin i ddim syniad pam fod hyn yn digwydd, ond mewn sefyllfaoedd cymdeithasol mi ydwi'n berson unig iawn iawn.

Enghraifft. Ychydig o wythnosau'n ôl (dyna pa mor hir dwi di bod yn ystyried blogio!) mi oedd na ddigwyddiad mewn neuadd leol i gofio am mam un o'm ffrindiau. Felly mi es yno gyda f'annwylyd. Wrth sgwrs mi oedd na bobl nad oeddwn yn ei adnabod, felly mi oedd "helo, sut ydach chi" yn berffaith addas. Felly hynny gyda llawer o bobl nad oeddwn yn adnabod yn ddigon da i gael mwy o sgwrs.

Ond gyda rhai o fy ffrindiau nad oeddwn wedi siarad gyda nhw ers gadael ysgol mi oeddwn i'n ocwyrd iawn. Yn dilyn fy nghariad o gwmpas y lle gan nad oeddwn i'n gallu edrych ar ôl fy hun. Yn sefyll jesd tu ôl iddo gan nad oedd gin i ddim i'w ddweud.

Ond mewn digwyddiad i ailagor y neuadd yn fy mhentref i, mi welais lle dwi'n cael hyn. Fi a mam ath i'r digwyddiad a mi oedden ni'n dwy yn eistedd ar gyfeiliorn y grwpiau eraill o bobl. Yn gallu dweud helo i bawb dim problem, ond dim yn adnabod nag yn gallu smalio adnabod neb yn ddigon da i eistedd gyda nhw drwy'r holl beth. Iawn digon teg, petai na rai o ffrindiau fi neu mam yna mi fuasai wedi bod yn wahanol, ond meddwl oeddwn i y fuasai'n braf gallu gneud siarad bach efo bobl yn well.

A dwin shwr chi allan yn y byd go iawn sydd wedi fy nghwrdd wedi sylwi hynny amdanai. Dwi'n ymddiheuro - tydwi ddim yn trio bod yn rwd.

Ond, ma raid bo fin gallu siarad digon da i gael swydd - mi fyddai yn athrawes flwyddyn nesa - go iawn! Wooo!

14.4.09

Ma car fi yn gwell na car ti

Dwi'n teimlo ychydig yn blentynaidd, ond fel hyn ma 'mhen i'n gweithio yn aml.

Fel ddwedish i yn y blog dwetha, mae f'annwylyd wedi cael car newydd. Mae o yr un oed a f'un i ond ma'n lan, yn sgleiniog ac yn newydd iddo fo. Mae fy nghar i ar y llaw arall, yn fudr, yn fler, yn torri i lawr ac yn 6 mis oed i mi.

Y temptasiwn oedd felly, yn y blog dwetha i fod yn genfigenus o f'annwylyd. Yn ogystal a hyn, mae gan ei gar o enw lawer gell na enw fy nghar i. Ble na allai fod fwy gwreiddiol na galw 'nghar yn "car" mae ei gor o wedi bod yn "Jenny" ers yr eiliad gyntaf - a mae'n ei siwtio hi i'r dim. Mae hi'n gyrglo o dro i dro (dwr yn rwla lle na ddylid fod) a rwsut ma'n rhoi lot mwy o gymeriad iddi.

Ond ma nghar i lot mwy pwerus. Dwim yn goro mynd i fyny elltydd yn yr ail ger, mi allai gario bobl yn y car heb orfod poeni am eu pwysau a fy nhar i ydi car. Felly ma'n well.

Cyn belled a dwi'n y cwestiwn mae pawb, dim ots beth yw eu hoedran, yn meddwl fel plentyn am rai pethau; "mae nghar in well na dy un di; naaa naaa naa na naaa naa" ond y gwahaniaeth wrth dyfu fyny ydi nad ydwi (fel arfer) yn mynegi'r meddyliau yma.

Mae'r car yn y garej heddiw a dwi wir yn gobeithio geith y broblem ei sortio. Dwi di cael digon o'r injan yn sdopio ac yn gwrthod ailgychwn - dio mond yn digwydd mewn traffig drwg. Pwy ddwedodd fod angen enw er mwyn i car gal cymeriad!!

Hwyl a sbrii

27.3.09

Car

Mi oedd ddoe yn ddiwrnod drwg. Mi oeddwn yn teimlo'n sal oherwydd mod i wedi bod o dan lot o bwysau y dyddiau cynt, mi oeddwn i wedi blino am yr un rheswm a doedd fy ngwersi ddim yn rai da iawn oherwydd fy mod wedi mynd syth i'ng ngwely ar ol dod adra o'r cyfweliad (cheshim y swydd ond mi athon oce). Mi oedd gin i gur yn fy mhen ac mi oeddwn i'n gyffredinol reit mwdi.
 
Felly pan gyrhaeddish i dy fanwylyd, doedd pethau ddim yn argoeli'n dda.
 
Mi oedd o wedi cael car newydd. Mi oeddwn i mor flin oherwydd cenfigen, mi fuaswn i wedi gallu ei hitio fo! Hollol hollol wirion mi wn, ond ma 'nghar i wedi bod yn charae i fyny yn ddiweddar a mae o wir angen ei llnau, a dyma fo yn cyrraedd efo'i gar newydd sgleiniog. Dydi "glowering looks" erioed wedi bod mor "glowering"!
 
Erbyn bore ma wrth sgwrs, dwi di maddau i f'annwylyd ac i'ng nghar. Mi geshi chat efo Car heddiw (dyna di enw nghar i gyda llaw...dychymyg gwych sgin i de) ac ymddiheuro iddo am fod yn genfigenus am gar rhywun arall ac esbonio'r rhifau. Mi gyrhaeddish i gwaith heddiw sydd yn golygu nad ydio rhu flin gyda mi...os nad ma'i gynllyn dieflig ydi fy sdrandio ar Ynys Mon!
 
Dwi'n edrych ymlaen erbyn wan am dreif yng nghar newydd f'annwylyd. Ond mi geith Car ei llnau yn fuan i mi gal sgleinio hefyd!
 
Hwyl a sbrii


Windows Live Messenger just got better. Find out more!

25.3.09

Byw am wyliau'r haf

Dwi'n cofio'r teimlad yma'n iawn. Mae'n braf bod nol.

Doesna ddim rheswm i mi beidio cofio'r teimlad yma cofiwch - dwi heb fod i ffwrdd ers yn hir iawn ond does dim geiriau i ddisgrifio pa mor braf yw hi i fod mewn ystafell gyfrifiaduron prifysgol eto, yn gwastraffu amser.

Mae fy mywyd ar hyn o bryd yn laptops ac yn wersi ac yn x-flies. A dyna'r oll! Dwi'n cael yr hiraeth fwyaf yr wythnos yma am brifysgol: am gysgu, am syrffio'r we, am feddwi ac o fwynhau gwneud dim byd.

Ond wrth i mi eistedd yn mwynhau hyn oll (yn teimlo braidd yn over-dressed yn fy siwt cyfweliad), dwi'n ymwybodol fod posib edrych ar yr ochr dda o'r hiraeth yma. Os ydi pob dim yn mynd o chwith heddiw yn y cyfweliad - a phob cyfweliad arall gai (gobeithio) flwyddyn yma; does dim angen torri calon.

If all else fails eleni, dwin mynd i gael unrhyw hen swydd yn macdonalds am ryw 6 mis a wedyn mynd i drafeilio a chael mwynhau gwneud dim byd mewn gwledydd eraill.

Os ydwi'n cael swydd ar y llaw arall, dwi ddigon bodlon neidio i'r byd go iawn ben yn gyntaf a byw am wyliau'r haf.

Hwyl a sbrii

7.3.09

Notepads

Ma gin i fwy o padiau ysgrifennu na sgin i o sgidiau. Dim gair o glwyddau.

Ers i mi fod yn ferch fach dwi wedi bod wrth fy modd hefo nhw. Pan dwi'n clirio'n llofft o dro i dro mi ddoi ar draws un neu ddau a mi eisteddaf yn eu darllen a gwen ar fy ngwyneb.

Y broblem fwysaf sydd gin i ydi fy mod wastad yn ceisio meddwl am bwrpas teilwng i bob un. Tydwi ddim eisiau gwastraffu unrhywun ohonu nhw ac am y rheswm yna, mae bron pob un yn mynd yn wastraff.

Mae'r mwyafrif ohonyn nhw wedi troi yn ddyddiaduron ac wedi methu'n llwyr. Y blog yma yw'r dyddiadur mwyaf llwyddianus gedwis i erioed. Dwi wedi ceisio ysgrifennu dyddiaduron yn gymraeg ac yn saesneg (mae'n ddoniol iawn darllen fy ymdrechion saesneg o pan oni tua 15 ac i gyd yn anksty). Dwi wedi ceisio ysgrifennu rhai ffurfiol a fuasai rhyw ddydd yn gallu bod yn lyfrau - rhai sy'n cynnwys fy hanes ac ati. Dwi wedi ceisio ysgrifennu un ble nad oeddwn i'n cynnwys enwau nag unrhyw ddyddiad, Er mai'r ymdrech yma barodd hiraf i mi mae ei ddarllen yn artaith oherwydd mod i'n edrych yn hynnod dipresed, unig a desperate.

Mae gin i lyfr piws bach oedd am dipyn yn lyfr ysbrydoliaeth. Yn fan hyn yr oeddwn i'n ysgrifennu unrhyw syniadau am gerddi neu am ganeuon. Mi barodd hwn am gyfnod reit hir. Yn mynd yn fleriach ac yn fleriach bob dydd ond yn llawn ysbrydioliaeth gwael gydag ambell i gwpled hyd.

Ond mi ddiflanodd y llyfr yma wedi i mi brynu llyfr lledr du. Ym mlaen y llyfr yma mae'r holl mwydring meddwol. Unrhyw adeg ble mae alcahol yn y corff a mae rhywun eisiau papur neu dwi eisiau cofio rhywbeth, i lawr yn y llyfr yma roedd on mynd. Oherwydd mod i yn cario'r llyfr yma i bob man mi drodd y cefn yn sybstitiwt i'r llyfr piws; yn cynnwys unrhyw ysbrydoliaeth yr oeddwn eisiau ei gofio. Roedd y llyfr yma gin i tan yn ddiweddar iawn. Mae o dal gin i yn rhywle lle nad ydwyf yn ei ddefnyddio. Duw a wr ym mhle.

Tra yn Madrid haf diwethaf, prynais lyfr hyfryd wedi ei glorio a defnydd. A penderfynais wedi cael y syniad gan rywun arall i gynnwys atgofion gwyliau ynddo. Felly dyma fi ar unwaith yn ysgrifennu am Madrid; yn son am bob diwrnod fesul un ac yn sdicio ticedi a cardiau post i mewn. Dwi heb fod ar wyliau ers hynny....

Dolig mi ges i lyfr hyfryd tebyg iawn i hwn gan fy nghariad. A mae o dal ar y bwrdd lle rois i o lawr dwrnod dolig. Mae o wedi ei glorio a lledr brown a mae o'n fy atgoffa o'r llyfr yn indiana Jones. Ond allai ddim meddwl am bwrpas teilwng iddo. Ddim o gwbl. A dwi wir eisiau oherwydd mae'r llyfr yn haeddu cymaint a hynny.

Unrhyw syniadau?

Hwyl a sbrii

13.2.09

Siwgr i frecwast

Wnai ddim bwyta siriyl melys i frecwast - mae'r syniad o frosties neu coco pops yn troi arnai a dweud y gwir.
 
Ar y llaw arall, mi ydwi'n rhoi siwgr ar fy uwd ac ar fy rice crispies.
 
Mi wnai hefyd, fwyta bara siocled (pain de chcolat) pan yn ffrainc (yn gynnes fel bod y siocled yn toddi...mmmm!).
 
Bore ma, mi oni'n hwyr oherwydd fy mod yn brysur yn trio pacio at fy wythnos o feddwi a dal i fyny gyda ffrindiau yn Aberystwyth a Chaerdydd ac felly mi oedd rhaid pigo rhywbeth i fyny yn sydun wrth fflio drwy'r gegin i gyrraedd y car. Heddiw gyfeillion, cefais mini fflapjacks a mini caceni chocolate covered rice crispies (ew cymraeg da) a'u bwyta yn y car.
 
Ond frosties? Coco pops? Frostied shreddies? Ricicles? (ayb) Ychafi, na ddim diolch. Rhu felys i mi yn y bore.
 
Hen greadures od ydwi weithiau!
 
Hwyl a sbrii
 


 


Get Hotmail on your mobile from Vodafone Try it Now!

11.2.09

Bad day

Dwi'n cael diwrnod drwg. A does dim facebook ar gael yn gwaith felly allai ddim "ventio" ar y statws yno. Felly dyma fi. Yn gwastraffu amser ble ddylwn fod yn gweithio yn cael y sdres allan o'm system.
 
Technoleg yw'r bai bron yn gyfan gwbl. Mi oeddwn wedi paratoi yn gyfan gwbl ar gyfer fy ngwersi ond na, doedd dim yn mynd i weithio i mi. Printer, cyflwyniadau, interactive whiteboards, dim. Sydd yn golygu wrth sgwrs mod wedi ysgrifennu lot fawr iawn.
 
Doeddd y diffyg technoleg ddim yn ddiwedd byd - mi allai ymdopi'n hollol ffain efo bwrdd gwyn. Y broblem ydi wedyn fod y wers yn mynd yn boring iawn. Ac oherwydd y diffyg taflenni gwaith mi oedd mwy nag arfer o gopio, sydd yn fwy diflas byth. A mi oedd gwaith yn anoddach i'w ddallt, yn enwedig i ddisgyblion sydd yn dysgu yn weledol.
 
Ond dyna ni, dwi wedi dysgu dau wers ble na wnaeth y disgybliongau eu cegau ond dwi wedi eu cosbi a pnawn ma ma gin i'r dosbarth tawelaf erioed. Fydd yn neis.
 
Yr eironi yw wrth sgwrs fy mod yn "ventio" fy mhroblemau technoleg i gyd i chi drwy gyfrwng technoleg....
 
Ar ochr hapusach; dwi am andros o hanner tymor lyfli yn Aberystwyth a Chaerdydd. Dio ddim rili yn gneud gwahanaiaeth  pa le fyddai, fydd yr amser yn cael ei dreulio yr un fath: pyb, dal fyny efo ffrindia a pyb (a mbach o rygbi wrth sgwrs)

Hwyl a sbrii


Try Facebook in Windows Live Messenger! Try it Now!

19.1.09

Bwydo'r twrci at dolig nesa

Gyda pawb yn mynd ar ddeiet yr adeg yma o'r flwyddyn dwi di penderfynnu newid y trend. Fi yw'r twrci yn yr achos yma.

Dydd Sadwrn mi fwytish i'm mhwysau mewn bwyd.

Amser cinio mi ath teulu f'annwylyd a fi am cantoneese i ddathlu penblwydd priodas ei rieni. Mam bach son am fwyd neis! Mi geshi battered king prawns gyda saws OK a wedyn cyw iar sweet'n'sour efo crispy noodles. Iym iym lyfli jybli.

A finna'n isda na yn trio mwynhau 'mwyd tra ma'r pedwar arall yn bwyta 'fo chopsticks a finna efo fforc. Dwi rioed di buta fo chopsticks o'r blaen ond mi oedd rhaid i mi a'r pwysa' na ar fy sgwydda. Ond wedyn doeddwn i methu mwynhau mwyd achos nad oeddwn i'n gallu pigo fo fyny.

Practis makes perfect ac yn y diwedd mi oeddwn yn gallu pigo'r madarch fyny a bob dim. A buta tan oddna fwyd yn dod allan o'ng nghlustia!

A wedyn ffwr a fi i barti teulu a geshwch be? Mwy o fwyd. Calvery hyfryd. Wir yr - pob dim yn feddal braf a moist a blasus! Er mod i dal yn llawn!!!

Llu fyddai ddim yn agos at y wii fit am mbach ne fydd fy ngraff bmi yn saethu fyny!

Hwyl a sbrii

13.1.09

Y dyfodol

Ma'r teimlad i grynhoi'r flwyddyn dwetha wedi pasio, ond rhag ofn iddo ddod yn ol, mae o wedi ei arbed yn y ffeil drafftiau. Felly yn hytrach heddiw beth am edrych i'r dyfodol?

Yn y dyfodol agos; dwi yn y brifysgol am bthefnos arall a wedyn i ysgol newydd sbon. Dwin nyrfys iawn ond yn edrych ymlaen ar yr un pryd. Mae gini gwrs yn Aberystwyth cyn cychwyn yn yr ysgol a dwin edrych ymlaen am mbach o feddwi! Cyn diwedd y mis mae gin i barti gwisg ffansi a dwin sdyc gogyfer a fel beth i fynd.

Ymhellach i'r dyfodol? Gobeithio y fyddai'n athrawes go iawn erbyn diwedd y flwyddyn ac yn gyfrifol am addysgu plant bach fel swydd. Sgeri sdyff yn-ai. Dwin edrych mlaen at allu fforddio'r sdeddfod ac am fynd i llundain efo teulu f'annwylyd. Dwi'n rhyw hanner gobeithio y fydd f'annwylyd wedi cael swydd syn talu lot a lot o bres yn y dyfodol agos fel ein bod yn gallu fforddio mynd ar y "dream-holiday" (tren o llundain i Morrocco gan aros ym mharis, madrid a gibraltar ar y ffordd) ond dwin ama y bydd rhaid i ni gadw hwnnw am flwyddyn.

Ymhellach na hynny, ni allaf weld. Ond pan mae'n digwydd, gobeithio y byddaf yma i sgwennu amdano!

Hwyl a sbrii

5.1.09

Oerrrr

Mae hi'n oer. Sylwoch chi?

Does dim heater o fath yn y byd yn fy llofft i. Felly mae hi'n oer. Gwaeth na hynny, mae hi'n OER!

Mi oedd gin i draethawd i wneud dros y penwythnos (y gwir? mi oedd y traethawd gin i ers 3 mis) ac oherwydd mod i angen fy nesg, fy llyfrau, fy ffeiliau ayb, mi oedd yn haws o lawer i mi wneud y gwaith yn gy llofft.

Mam bach, son am oer! Mi neshi ddwyn heater o'r stafell gyfrifiadur ond ma hwnnw gena ni erioed a diom yn dda iawn felly dim ond cynhesu fy mhenegliniau oedd o. Mi oedd gin i fotal dwr poeth ar fy mol, a mi oeddwn yn gwneud yn siwr fod gin i banad wrth llaw i gnesu'n nwylo.

Er hyn i gyd, doedd ddim ynbrofiad pleserus, o bethwmbrath!

Ond, ar y llaw arall, mi oedd gin i reswm arall i weithio yn sydun!

I gysgu? Ma gin i dwfe, blanced flis piws, blanced patchwork, blanced flis coch, sach gysgu a blanced drom wen. A 2 fotal dwr poeth. Dwi dal yn oer goeliwch chi fyth!

Eniwe, blwyddyn newydd dda i chi, dim ond post sydun ydi hwn tra dwin cael fy nghinio. Dwi nol yn y coleg am dair wthnos wan cyn mynd i ysgol arall tan mis mai.

Fel y fasiwn, cewch flog am fy mlwyddyn ymhen ychydig...efallai.

Hwyl a sbrii

24.12.08

Nadolig

Does dim blog yn llifo heno mae gin i ofn. Felly mi ddof yma i ddweud Nadolig Llawen i chwi.

Dolig Llawen a dymuniadau gorau.

Hwyl a sbrii

19.12.08

Teimlo

Mae gweld y negeseuon sydd yn y cerdyn dwi wedi ei gael gan disgyblion fy nosbarth cofrestru yn lyfli ac yn gwneud i mi wenu. Mae'r anrheg dwi di cael yn gnwued hynny hefyd.

Mae meddwl nad ydwi'n dod yn ol ar ol dolig yn gwneud i mi deimlo'n drist. Dwi wir wedi mwynhau ac yn mynd i fethu'r disgyblion a'r athrawon yma.

Mae meddwl y bydd darpar athro/athrawes arall yn cymryd fy lle ar ol dolig yn gwneud i mi deimlo'n od. Yn yr un ffordd a mae meddwl y byddaf i yn cymryd lle rhywun arall mewn ysgol ar ol y nadolig.

Mae meddwl am geisio am swydd o fewn y misoedd nesaf yn fy nychryn i go iawn.

Hwyl a sbrii

15.12.08

Cinio Nadolig

Mae hi'n ddipyn o gamp i goginio cinio nadolig i 12 person. Mae hi'n hydynoed fwy o gamp i wneud hyn mewn 3 ffwrn gwahanol ar dri llawr gwahanol o'r ty. Ond dyna ddigwyddodd ddydd Sadwrn yn nhy fy mrawd a'm ffrindiau yn Aberystwyth.

Mi oeddwn i wrth sgwrs wedi gyrru lawr i ymuno â'r hwyl ar ôl bod mewn parti gwaith yn Llanelwy noson gynt. Felly dyma fi'n cyrraedd yn benmaenmawr i gyd, ond mi oedd rhaid i mi chwerthin wrth weld yr hylabalw!

Yn y ffwrn gwaelod mi oedd y cig oen yn coginio, ac yn ddiweddarach y selsig mewn blancedi (pigs in blankets) hefyd. Yn y ffwrn canol mi oedd yna glamp o dwrci a sdwffin. Ac yn y ffwrn top mi oedd yna datws rhost, panas (hanner â mel, hanner heb), yorkshire puds, moron, sbrowts, tatws mash, grefi ac o bosib rhywbeth arall dwi wedi anghofio.

Mi geshi lot o ymarfer corff wrth helpu i baratoi'r bwyd, mi allai addo hyna wrthoch chi.

Ond cofn i chi boeni mod i'n colli pwysau dros gyfnod y nadolig, mi fwytish i ddwbl pwysa fyt hun o'r bwyd - wir yr. Llond platiad o fwyd lyfli jybli. Geshi fodfadd o shampên a phopeth!

Gyda dau ginio dolig di bod, dwi wir wedi cychwyn teimlo hwyl y nadolig. Geshi foment gwych neithiwr ble oedd pawb adra (yn cynnwys fy mrawd yn ôl o Aber am y dolig) a phawb yn gwylio Elf ar y teledu tra'n trimio'r goeden. Perffeithrwydd!

Hwyl a sbrii