Ma hi wedi un yn y bore. Dwi'n gwneud beth dwi'n ei wneud yn aml yn ddiweddar. Dwi yn fy ngwely yn gwylio Dr who (tra ar y laptop, yn amlwg). Dwi di gwylio "Girl in the fireplace" oleia 2 os nad 3 gwaith wthos yma (oleia un yn feddw). Och, dwin caru Dr who.
Ond os nad ydi hyn yn ddigon geeky, dwi hefyd yn aelod o grŵp ar facebook o'r enw "I wish I were your derivative so I could lie tangent to your curves". Yn darllen lot o betha clefar felna. "Your mamma is easier than differentiating e^x" neu "there are 10 tyoes of people in the world; those who understand binary and those with friends" (dwin falch o ddweud nad ydwi'n dallt binary. Mi ydwi'n dallt sut ma barcodes yn gweithio...) Hmmm. Mana fwy. "Nerds do it rarely", "If I could rearrange the periodic table, I would put "I" on top of "U"", "Physics is like sex. Sure it has a practical purpose, but thats not why we do it".
Eniwe...nai sdopio fo huna. Ddylwn i fynd i gysgu. Ma'n llygid i yn cau fel dwin siarad, ma gin i chydig o gur yn pen a ma gin i ddwrnod llawn sdydio i'w wneud fory. Sydd falla yn esbonio pam dwisho aros i fyny a chysgu trw dydd fory. A methu arholiad. Sydd byth yn beth da wrth sgwrs.
Hmmm. Dwin teimlo ddylwn i orffen y blog ma ar nodyn llai geeky na'r un ma di dechra arno. Ond allai ddim. Be dwi di neud heddiw? Weeel;
Bod ar y wê = geek
Gwylio dr who = geek
Sdydio = geek
Sdydio maths = geek
Peidio mynd allan am beint = geek
a.y.y.b. Och. Blog geeky, bywyd geeky. Dim allai ei wneud! Blaw sdopio fama cyn gwneud petha'n waeth i mi fy hun! Mi allai dal smalio bod yn cool ac yn hip...pah!
Hwyl a sbrii
Share And Share Alike
1 day ago

0 ymateb:
Post a Comment