Ma'r wthnos yma yn un mwd-swing tew sydd ddim yn cal digon o gwsg.
Dwi ar gyfartaledd, yn cael 4 awr o gwsg ers i'r arholiada gychwyn. 12 awr o gwsg mewn 3 noson. I am the walking dead. Dwi'n cal trafferth aros yn ddeffro erbyn wan, ond ma gin i arholiad arall eto fory felly ma angen sdydio. Dwin meddwl, os nai ddechra sdydio yn fuan wan, mi allai fynd i'ng ngwely cyn 12 am chenj. Byw mewn gobaith bethbynnag.
Ddoe, mi geshi'r arholiad gwaetha erioed. Wir yr. 2 awr o uffern. 40% ydi pass ac os dwi'n anhygoel o wirion o lwcus, falla gai 30 allan o 120. Bols. Felly, ar ol cyradd adra tua 4, mi ddechreuish i sdydio yn syth. A blaw am 10 munud i fynd i neud paned bob awr, awr i wylio walking the dead (ia, dwin gwbod mai waking dio fod, y mental image sydd yn gneud mi chwerthin), a ryw awr i fynd i nol bwyd ac ati, neshi sdydio tan 3 o'r gloch yn y bora. Dwi erioed di neud gymaint o waith at arholiad. Deffro am 7 bora ma eto i orffen petha off, ac fel ma arholiada yn mynd, oddon reit dda. Dwi yn sicr wedi pasio bethbynnag. Profi fod sdydio yn gweithio mwn. Er, wedi dweud hynna, mi oeddo'n arholiad lyfr-agored. Syniad gwirion iawn, ond dwi ddim yn cwyno o gwbwl.
Och. oni jesd yn meddwl ddylwn i flogio i adael chi wbo syt odd petha yn mynd. Dwin mynd i gal panad wan a wedyn gwaith tan tua 11. Fflipin arholiada!
Hwyl a sbrii....zzzzzz
One little song
11 hours ago

0 ymateb:
Post a Comment