31.1.07

Gwaith gwaith gwaith...

Mi ddoish i i'r llofft i neud gwaith. Dwi yma ers dipyn go lew o amser rwan.

Ar ol llwyddiant (HA!) yr arholiada, mi benderfynish i 3 peth.
  1. Mi oeddwn i am fynd i fwy o ddarlithoedd. Dwi'n hynnod ddiog ac wedi gaddo hyn i'm hun bob tymor. Dal yn aros i lwyddo.
  2. Mi oeddwn i am gopiio i fyny pan oni'n methu darlithoedd. Mi ddarganfyddish i fod hyn yn broblem yn yr arholiada troma; trio sdydio rwbath a darganfod fod gin i ddim i'w sdydio.
  3. Cadw fy nodiada yn daclus a threfnus. Man anodd sdydio os dechim yn dallt sgwennu eich hunain ac os dechin treulio hanner yr amser sdydio yn rhoi popeth mewn trefn
  4. Gwneud gwaith. Denin cael ar y mwya 2 aseiniad yr wthos a manw mor debyg i gwestiynna arholiada, man wirion peidio. Ond dwi byth yn.
Dwi di methu dau ddarlith heddiw. Sydd ddim yn ddechra da o gwbwl i rhif un.
Dwi wrthi ddim yn neud rhif 2 a 3 rwan. Wele fi ddim yn gwendu gwaith, eto
Dwi heb gael gwaith i beidio neud eto...

Och.

Dwi wedi penderfynnu fod ponytail ochr yn cwl. Dwin shwr mod i'n iawn. Ond ma'ng ngwallt i ddigon hir rwan i fynd ar fy nerfau os nad ydio mewn ponytail. Sydd yn reswm ddigon teg i'w dorri dwin meddwl. Sa neb arall yn cytuno. Dyw fy walet ddim yn cytuno chwaith.

Dwi angen sgwennu CV. Help. Dwin gwbod sut (duw a'm helpo fi os swni ddim, dwi di cal digon o wersi arna fo dros y blynyddoedd), ond dwi rioed di goro trio am swydd o'r blaen. Dio ddim rili ots os nad ydwi'n cael yr un dwin trio am, mana ambell i un arall. Ond y peth ydi, dwi di penderfynnu y fysa'r un yma yn wych. Digon o oria ond ddim digon, swydd allai ei wneud (tu ol bar haha!) a digon o bres. Fyddai'n dissapointed os na chai'r swydd!

O wel, gwaith amdani.....3, 2, 1 GO!

Hwyl a sbrii

0 ymateb: