25.1.07

Haza!

Hwre dwi'n rhydd! Hwre dwi di methu 3 arholiad allan o bump. Hwre gai feddwi heno!

Petai chi'n gofyn i mi sut ath yr arholiad heddiw, yr ateb sa chin gal ydi "wbath tebyg i'r un ddoe". Sydd ddim yn datgely lot o wybodaeth rili nadi. Wel ddoish i allan o'r arholiad yn reit hapus, ond dwin reit siwr mod i di methu (dwin deud huna fatha mai methu oedd fy ngobaith; "dwin meddwl mod i di methu, ond falla mod i di cal gormod o farcia yn cwestiwn 3...oddo braidd yn rhu hawdd"). Ond cyn belled mod i'n hapus, dosam otch tan y 1af o Fawrth.

Dwi di cysgu llai nag arfer wthos yma o lot. A dwi wirioneddol wedi blino. Y gobaith oedd mynd i gysgu ar ol cyraedd adra o'r arholiad. Ond doni methu. Felly geshi fath yn lle. Mi fysa wedi bod yn anffodus ond yn ddigon posib i mi foddi yn y bath trwy ddisgyn i gysgu. A finna heb ddathlu diwedd yr arholiada. Mi fysa hynna di bod yn anffodus.

Sgwrs, falla gai nap rol neibys.

Ddoi nol wedyn bosib i ddatgelu fy mhryd bwyd arbennig ar gyfer yr arholiada. Hollol gwbwl hyfryd!

Hwyl a sbrii

2 ymateb:

Chris Cope said...

Llongyfarchiadau ar ddioddef trwy dymor arholiadau. Raise one for me heno. Mae gennyf arholiad yfory. Wy'n ffyced.

Wierdo said...

Cydymdeimlaf.
Dwin gaddo i ti (no overcompenstating) mod i 'di dodda'r arholiad gwaetha ERIOED. Wir yr.