23.2.07

79 munud, 46 eiliad

Dyna faint gymerodd i fi a'r tew olchi pob eitem o lestri oedd yn fudur heddiw. Y tew yn golchi a minna'n sychu. Ma huna yn lot fawr iawn o lestri. Allai ddim teimlo'n hapus gan mod i'n gwybod y bydd rhaid gwneud yr un peth eto ymhen chydig ddyddiau. Ma llnau yn boen.

Newyddion da o lawenydd mawr! Dwi wedi pasio un o'r arholiada onin meddwl oni di methu! Dwi mor hapus! By the skin of my teeth mind, ond ma pass yn ddigon da i mi heddiw. Gradd, shmadd.

Dwi di ychwanegu lincs i'r comics dwi'n ei ddarllen ar yr ochr>>>>. Ma "Questionable Content" yn dda, braidd yn...emo falla? Dwnim, mana plot iddo fo felly mae o lot gwell os chi'n treulio oriau yn ei ddarllen o'r cychwyn mashwr. Mna ambell i un allwch chi werthfawrogi ar ben ei hun mashwr. "XKCD" yw'r gorau mashwr. Dyna lle odd y post ddoe yn dod. Lot o rai mathemategol dwin gweld yn ddoniol, ond mana lot o rai randym hefyd wnaeth i mi chwerthin allan yn uchel. "lol" fel ddylswn i ddeud. Dyw'r llall ddim cystal ond dwi dal i fynd yno o dro i dro!

Dwi hefyd wedi newid yr ochr i ddangos linc i'r blog saesneg dwi di penderfynnu dechrau. Cawn weld sut yr eith hi. Hwn fydd y cynta i mi bob amser, ond mi fydd hi'n braf cael owtlet newydd.

Mi fyddai'n dawel dros y penwythnos mae'n shwr, ma'n ffrind yn dod fyny o Gaerdydd. Neith dda i mi wneud rwbath yn lle eistedd o flaen y wê trw dydd!

Hwyl a sbrii

0 ymateb: