26.2.07

Blog bersonnol

Fel mae'r teitl yn awgrymu, ma'r blog yma yn mynd i fod yn un personnol iawn. Dwi fel arfer yn cadw petha' felma i fy hun, ond am rhyw reswm, dyw sgwennu yn fy nyddiadur heb gael hwn oddi ar fy meddwl. Sgwennu can fysa'r opsiwn arall wrth sgwrs, ond sgin i ddim ysbrydoliaeth gerddorol, a fysa fo ddim yn gwneud can dda iawn bethbynnag.

Weithiau mana betha' yn f'ypsetio. A pan ma hyn yn digwydd, ma'r byd ar ben. Allai ddim peidio crio, allai ddim gweld yr ochr olau, ac i mi mae biahfio fel plentyn newydd golli tegan yn gwbwl iawn. Dyna'r unig beth i'w wneud.

Wrth sgwrs, wrth edrych yn ôl wedyn, dwi'n teimlo'n wirion. Fel ffwl. A dwi'n gaddo y wnai weld be sydd yn digwydd i mi'r tro nesa; gweld mai hormons yn unig sydd yn gwneud i mi or-ymateb yn y fath ffordd.

A phan ddaw'r tro nesa, dwi'n methu gweld y gwirionedd. A dwi'n gor-ymateb eto.

Mi ffraeodd fi a f'annwylyd ddoe yn waeth nag erioed o'r blaen. Dwi'n mynd allan efo fo ers dros 2 flynedd a hanner a dwi erioed wedi ffraeo fel yna o'r blaen.

Ynghanol y ffrae, mi oedd y byd ar ben. Mi oedd f'annwylyd wedi mynd i lawr stair (yn Lerpwl, dros y wê oedd y ffrae yma) ac mi oni'n eistedd yma yn fwy ypset nag erioed o'r blaen. Mi oni'n beichio crio, yn crynu fel petawn i yn Antartica ac wedi hitio'r wal sawl, sawl gwaith. Doeddwn i methu sgwennu yn y dyddiadur oherwydd mod i'n crynu gymaint. Mi oni'n gwbwl sicr i fod o am orffen gyda mi, a mod i am fod yn sal.

Mi basiodd y ffrae, mi ymddiheurodd f'annwylyd a minnau am ein rhan ynddo ac mi welais i unwaith eto'r cam a wnês gyda mi fy hun. Dwi unwaith eto yn teimlo fel ffwl (er, ychydig yn prowd am hitio'r wal mor galed gymaint o weithia, dwnim pam) ac wedi gaddo i'm hun na wnai or-ymateb fyth eto.

Ma hynna cystal a dweud na wnai fyth yfed eto.

Tan y tro nesa, mwd-swing. Paid a brysio'n ôl.

Hwyl a sbrii

1 ymateb:

Sili said...

Ow Mari, ti a dy mwds! Trueni na fyswn i di aros yn Aber yn hirach i ti :( Cymer clamp o hyg am ddim xxx