
Dwi'n edrych ymlaen at noson o deledu da heno; chenj neis o eistedd yn newid sianeli trw'r amser.
Chi'm yn cal blog hir heddiw, ddim awydd sgwennu llawer arnai wthos yma.
Ma gem cymru lloegr fory. Edrychaf ymlaen am ddiwrnod hir o yfed a malu'r saeson. Ma' lot o'm ffrindiau yn mynd allan oherwydd fod i'n ddwrnod st. patrick hefyd. Dwi'n gwrthod. Dio ddim yn deg fod dathliad nawdd sant iwerddon yn fwy na dathliad diwrnod ein nawdd sant ni. Ddim byd yn erbyn St Patrick, jesd hepu achos Dewi ydwi! Dwi'n teimlo fel pwtawn i'n gwneud fy rhan! Mi fydd na yfed trw'r dydd bethbynnag; gem rygbi bwysig (unrhyw esgus)Wrth sgwrs, mi oedd rhaid ffindio'r fideo yma ar youtube;
Hehe. Gwd sdyff
Hwyl a sbrii

0 ymateb:
Post a Comment