10.3.07

Uffern

Dwi'n mynd i uffern. Dwi wirioneddol yn berson ofnadwy. Wir yr. I kid you not.

Mi ydwi'n Lerpwl am benwythnos hir. Ma penwythnos yn Lerpwl yn golygu mod i'n cael penwythnos hapus efo f'annwylyd a dipyn o siopa. Sydd yn wych.

Ond, mi oni a'r cariad mewn canolfan siopa heddiw yn cerdded yn braf, a dyma fi digwydd bod yn cicio darn o sbwriel oedd ar lawr. At hen ddynes. Oedd yn cerdded a ffon.

Dwi'n teimlo'n ofnadwy. Mi ddudish i sori, ond wnaeth hi ddim ymateb o gwbwl.

Dwi'n mynd i uffern.

Petawn i wedi cicio'r sbwriel at unrhyw un arall, swni'n teimlo'n ddrwg hefyd. Ond ddim cweit mor ddrwg a hyn. Petawn i wedi cicio'r sbwriel at pa bynnag yob sydd yn berffaith hapus i sbwriel ar lawr, mi fyswn i'n hapus. Dwi'n casau bobl sy'n taflu sbwriel ar lawr; pam? Dio ddim gymaint a huna o ymdrech i ffindio bin, yn enwedig mewn tref fel Lerpwl. Go drapia nw.

Petai na ddim bobl fel nhw yn y byd, fyswn i heb gicio'r sbwriel at yr hen ddynes.

Mi fyswn i dal yn mynd i uffern ond ddim am y rheswm yna.

Mi flogiai eto'n fuan; Hwyl a sbrii

1 ymateb:

Sili said...

Wel, dwi di bod yn trio deutha ti ers sbel rwan...