7.3.07

Wedi Blino

Dwi wedi blino'n lan. Ma gin i 2 ddarn o waith dwisho'i wneud heno ond allai ddim meddwl am wnaeud run ohonyn nw.

Mi eshi chwara rygbi pnawn ma, ac er bo fi di mwynhau lot fawr iawn, mae o wedi cymryd fy holl egni. Allai ddim meddwl am ddadansoddi'r ANOVA a'r tests gwaanol heb son am feddwl am abstract algebra (ma maths yn hwyl!). Dwisho cyrlio fyny yn y gwely a cysgu.

Dwi dal angen swper a bath.

Y plan yr eiliad yma yw i roi swper yn y popty tra'n gwneud un darn o waith. Wedyn, tua hanner ffordd trwy'r coginio mae angen ychwanegu caws. Wedi gwneud hyn, cael bath am ryw hanner awr, cyn bwyta yn fy ngwely o flaen never mind the buzzcocks. Deffro chydig cynt bore fory i orffen y gwaith.

Wneith ddim ddigwydd fel hyn, ond dyna'r oll dwisho'i wneud!

Hwyl a sbrii

2 ymateb:

Huw Waters said...

Yn bersonol dwi'n ffindio hi'n haws gwneud gwaith meddyliol ar ôl chware rygbi.

Wierdo said...

Fi 'fyd fel arfer; mae'n gwneud i mi deimlo'n llawn egni ac er mod i di blino ddipyn bach, ame fy meddwl yn barod am waith. Ond nid fel yna mo neithiwr; mi onin shatyrd ym mhob ystur y gair. Dwi di deffro bora ma yn barod am waith (wel, naddo ond mi fydd rhaid i mi)!