Dwi wedi llwyddo symud y petha mwya; y wardrôb a'r gwely. Mi fuodd rhaid i mi gael help efo'r gwely! Ond rwan dwi di gwneud darganfyddiad.
Ma walia'r llofft ma'n gam.
Wedi symud y wardrôb, ma'r gwaelod mor agos i'r wal a sydd bosib. Ond mana andros o gap yn y top. Unai ma'r wal neu'r llawr yn gam. Di hyn ddim yn fy mhoeni llawer; faint o bobl sydd am edrych lawr cefn fy wardrôb?
Mae'r bedside table yn ffitio rhwng y wal a'r gwely (jysd). Ond os dwi'n trio'i roi o yn y gornel lle ma fod, wneith o ddim. Sydd mbach yn niwsans. Dwi'n gobeithio wrth sgwennu'r blog ma, gai rhyw nerth od o rywle sydd yn mynd i alluogi i mi newid siap y gwely/bedside table/sdafell. Byw mewn gobaith.
Ar ôl fi ffindio ll i roi bob dim dwi angen tacluso'r manion sydd bobman, ma angen hwfro a dysdio a phopeth. Ma hi wedi 11 y nos bobl. Mi oedd hwn y syniad gwiriona' erioed.
Hwyl a sbrii
One little song
11 hours ago

0 ymateb:
Post a Comment