1.4.07

Diwrnod 2 - Teulu

Mae’n edrych yn debyg fod pob gwyliau teulu yr un fath. Pan oeddwn i’n fach ac yn mynd i gampio efo mam, dad a’m mrawd, mi oedden ni’n cyrraedd tua amser tê (cyn gynted a sydd bosib bethbynnag) ac yn codi’r dent. Wedyn mi oedd yr ail ddiwrnod yn un diog bob amser; mynd i’r swyddfa twristiaeth ac ymlwybro o amgylch yr ardal gyfagos.

Llun o’r afon oedd yn rhedeg trwy’r pentref

Rhywbeth tebyg sydd yn digwydd wythnos yma yn Ffrainc. Neithiwr, mi gyrhaeddom ni tua hawdi wyth a setlo mewn. Heddiw, mi gerddom ni yn ara deg o amgylch pentref Hesdin. Mae’n bentref prydferth iawn âg afon yn rhedeg trwyddo ac Eglwys yn ei ganol yn ogystal a neuadd y dref impresif iawn.

Tu mewn eglwys St Saulve yn Montreuil

Ma pobman wedi cau ar dydd Sul yn Ffrainc wrth sgwrs a ma’n beth od iawn i rwyn o Brydain sydd wedi arfer â chael oleia’r siopa mawr ar agor ar dydd Sul. Mi geisiom ni fynd i’r “Champion” (archfarchnad) yn y pnawn, ond mi oeddo wedi cau. Felly yn hytrach na troi yn ôl, mi garion ni mlaen a chyrraedd ymhen rhyw hanner awr, pentref prydferth arall; Montreuil. Mi oedd arfer bod yn dref fynachlog ac mi oedd waliau’r dref, yr Eglwysi a’r dref ei hun yn brydferth iawn iawn. Mi gymerom ni ganoedd o luniau!

Mi oedd rhaid iJohn dynnu’r llun yma.

Fel flwyddyn dwetha, mae pob nos yn cael ei dreulio yn chwarae cardiau. UNO ydi’r gem flwyddyn yma. Ma’r person sydd yn gorffen gynta yn cael 0 pwynt ac mae pawb arall yn adio’r sgôr sydd ar y cardiau yn ei llaw i fyny. Y person â’r marc lleia ddiwedd yr wythnos fydd yn enill. Dwi’n eitha balch fod teuluoedd eraill mor gystadleuol a’n teulu ni. Mi oedd yn gem doniol iawn o gardia. Dwi ddim yn meddwl mod i erioed wedi gweld neb yn cael gymaint o drafferth i ddallt y gem. Mi ydwi’n enill hyd yn hyn! 3 bar o siocled i mi os ydwi dal yn y sefyllfa yma nos Wener!

Hwyl a sbrii

Ddim yn dallt be dwi’n son am? Wel, dwi’n Ffrainc am wythnos gyda fy nghariad a’i deulu. Ma’na naw ohona ni. Nain a Taid (ochr mam f'annwylyd), Rhieni f'annwylyd, f'annwylyd, ei frawd, cefnder a cyfneither f'annwylyd a mi. Dwi di gaddo i’m hun y wnai flogio bob dydd tra yma (a’i bostio ar ol cyraedd adra a smalio mod i wedi ei roi fyny ar y diwrnod gafodd o ei sgwennu!) sydd yn golygu fod rhaid mi flogio ddwywaith bob dydd. O, hwyl! Mi welai chi’n fuan! x

0 ymateb: