4.4.07

Diwrnod 5 - Pysgod

Pan yn cynllunio beth oedden ni am wneud bob dydd tra yn Ffrainc, mi oedd marchnadoedd yn helpu. Pryd a lle oedden nhw, dyna lle oedden ni am fod hefyd. Dyna pam ddewision ni fynd i Boulogne heddiw; y farchnad. Doedd o ddim cystal ag oeddwn i’n disgwyl. Er ei fod yn un ddigon mawr; mwy na’r rhai dwi wedi bod iddyn nhw yn ôl adra bethbynnag, doedd na ddim digon i mi ei weld yno. Dim ond lot o fwyd a diod oedd yna. llysiau, caws, llysiau, cig, caws, cig. Lot o hwyl bethbynnag. Ma’na un yn y dref lle ma’r ty fory, dwi’n obeithiol fydd hwnnw’n well!

Mi brynodd John flodau i mi. 10 o rosod.

Nausicaa wedyn. Wel, dyma i chi brofiad wnes i fwynhau lot fawr iawn. Mi oedd yr aquarium wedi’w gynllunio yn dda iawn; lot o sections gwahanol a lot o atmosffer. Goleadau a synnau yn dod o’r waliau, tanciau diddorol a ffeithiau diddorol. Heb son am y pysgod. Bob math! Mi oedd na section dan y dwr, tropical, ar y lan, a llawer mwy.

Mae’n rhaid mi son am y 4 peth gorau yno.

Hynnod hynnod ciwt (mi oedd y llun lot goleuach ar fy laptop i...)

Y cynta yw’r pengwins. Rhain oedd yr ola i ni fynd i weld. Rhain hefyd dreuliom ni lleia o amser yn edrych arnynt. O, mor ciwt. Mi oedd yr ymateb yn hynnod ystradebol pan gerddish i mewn i’r ystafell. “Oooo ciiiwt” yn y llais niwsans trwynol ‘na ma bobl yn ei ddefnyddio pan manwn dweud wbath felna. Ond mi oedden nhw.

dyyy-ry, dyyy-ry, dyy-r dyy-ry dyy-ry

Yr ail yw’r siarcod. Mi oedd rhain yn amlwg yn mynd i fod yn attraction. Mi oedd f’annwylyd yn fy mrysio heibio’r pysgod cynt. Mae’n ofn siarcod ond ma’ ganddo rhyw atyniad od tuag atyn nhw hefyd. Jaws efallai? Mi oedden nhw eitha cwl chware teg, yn enwedig pan oedden ni’n gallu gweld eu ffins uwchben y dwr yn ystradebol i gyd. Mi athon ni wedyn i’w gweld nw o dan y dwr. Yr unig beth siomedig amdanyn nhw yw pa mor ara deg oedd yr un mwya (yr un mwya sgeri hefyd) yn nofio. Allai ddim cwyno ddo!

Y trydydd peth yw’r morloi. Mi oedden ni ddigon lwcus i gyrraedd ynghanol perfformiad. Perfformiad Ffraneg, ond mi oedden nw dal yn umpresif iawn.

Yr ola yw’r rhan i’r plant bach (fywa) lle roeddech chi’n gallu cyffwrdd a rhai o’r pysgod. Mi gyffyrddish i â String-Ray, Siarc yn ogystal a sawl pysgodyn arall. Mi dreulion ni bron i awr yn gwneud hyn (y rhai iau ohonan ni bethbynnag) gyda’n llewis wedi torchi i’r ysgwydd bron yn neidio i mewn i’r dwr i’w cyffwrdd. Y stingray a’r siarc bach du (dogfish dwin meddwl) oedd fy ffefrynnau.

Bethbynnag, fel ddwedish i, mana farchnad yn Hesdin fory a dwi ddim eisiau bod wedi blino, mi oedd heddiw yn ddiwrnod hir gyda ni allan o’r ty am rhyw 8 awr oliea.

Hwyl a sbrii

Ddim yn dallt be dwi’n son am? Wel, dwi’n Ffrainc am wythnos gyda fy nghariad a’i deulu. Ma’na naw ohona ni. Nain a Taid (ochr mam f'annwylyd), Rhieni f'annwylyd, f'annwylyd, ei frawd, cefnder a cyfneither f'annwylyd a mi. Dwi di gaddo i’m hun y wnai flogio bob dydd tra yma (a’i bostio ar ol cyraedd adra a smalio mod i wedi ei roi fyny ar y diwrnod gafodd o ei sgwennu!) sydd yn golygu fod rhaid mi flogio ddwywaith bob dydd. O, hwyl! Mi welai chi’n fuan! x

0 ymateb: