Ma’ hi’n hanner awr wedi naw y bora wedyn (a dwi’n meddwl pa ddyddiad nai roi ar hwn? Ydwi’n rhoi hwn ar y wê fel petawn i’n blogio ddoe fel arfer, ta ydwi’n cal 2 flog heddiw? Cewn weld.) a dwi’n falch. Oni’n dechra ama nad oedd y bore byth am gyrraedd yn iawn. Dwi’n effro ers tua hanner awr wedi pump. Mi geisiais i droi a throsi fy ffordd i gysgu tan tua hawdi chwech neu 7 cyn rhoi gif-yp. Mi dreulish i hanner awr go dda yn trio setio chwaraewr mini-disg f'annwylyd i fyny yn y tywyllwch. Wedyn gorwedd ar fy nghefn yn gwrando ar Stereophonics yn methu troi rhag tisian ac yn methu anadlu dan annwyd. Not a happy bunny. Fel oeddwn i’n disgyn i gysgu, mi redodd batri’r chwareuwr allan a bipian yn uchel yn fy nghlust a fy neffro. Disgynnais i gysgu am rhyw hanner awr cyn codi am hawdi 8. Dwi ddim yn meddwl fod llawer o bobl wedi cysgu’n dda iawn neithiwr. Mi oedd ‘na farchnad yn Hesdin ddoe. Gan fod Hesdin gymaint llai na Boulogne, doeddwn i ddim yn disgwyl llawer gwell na ddoe. Mi oeddwn yn anghywir. Mi oedd y farchnad yn un anferth gyda pob math o bethau yno; bwyd o bob math, dillad, bagiau, tegannau, ieir hwyaid a cwningod byw, a llawer llawer mwy. Mi oedd yn sypreis ar yr ochr orau.
Yn y pnawn mi aethom ni i Azincourt. Mi oedd yn hynnod hynnod ddiddorol. Doeddwn i ddim yn disgwyl gymaint mewn pentref mor fach, Mi oedd na cryn dipyn o dechnoleg yno. Hynnod ddiddorol, a mi geshi ddipyn o wybodaeth am Hesdin hefyd.
A rwan ma hi’n chwarter i ddeg ar ein diwrnod ola yn Ffrainc. Deni’n eistedd o gwmpas y bwrdd brecwast yn trafod be deni am wneud heddiw. Ar y ffordd i’r gwch fory, deni am fynd i weld lle gwneud siocled ac i archfarchnad anferth i wneud siwr nad oes gin i ddim pres ar ôl yn cyrraedd adra. Mwahahaha.
Hwyl a sbrii
Ddim yn dallt be dwi’n son am? Wel, dwi’n Ffrainc am wythnos gyda fy nghariad a’i deulu. Ma’na naw ohona ni. Nain a Taid (ochr mam John), Rhieni John, John, ei frawd, cefnder a cyfneither John a mi. Dwi di gaddo i’m hun y wnai flogio bob dydd tra yma (a’i bostio ar ol cyraedd adra a smalio mod i wedi ei roi fyny ar y diwrnod gafodd o ei sgwennu!) sydd yn golygu fod rhaid mi flogio ddwywaith bob dydd. O, hwyl! Mi welai chi’n fuan! x
0 ymateb:
Post a Comment