6.4.07

Diwrnod 7 - Disgyn i'r Haul

Ein diwrnod llawn ola yn Ffrainc. Beth i’w wneud? Mi oedd hi’n anhygoel o braf ond mi oedd angen pacio cyn y nos felly doedd dim amser gwneud dim rhu anhygoel. Y penderfynniad terfynnol oedd i fynd nôl i Montreuil am chydig. Mi oedd hi mor braf mi dreulion ni gryn dipyn o amser tu allan y citadel yno yn chwarae. Pel droed a Badminton.

F'annwylyd a'i gefnder yn chwarae badminton. Yn wych wrth sgwrs.

Mi esi a f'annwylyd am dro trwy walia’r dref ac allan ochr arall a dechrau cerdded o gwmpas chydig. Mi oedd y syniad o antur wedi fy nhroi yn blentyn unwaith eto. Mi redais i, mi ddisgynnais i, mi griais i. Megis plentyn bach. Dwi heb ddisgyn ers blynyddoedd, ond dwi’n siwr fod henaint (ha!) yn golygu ei fod yn brifo lot fawr iawn mwy. Ma’ Saflon hefyd yn beth cas iawn. Pam, o pam fod bobl yn rhoi saflon ar friwiau plant? Ma’n brifo fel cythraul. Mi geshi fwd ar hyd fy ffrog hefyd ac felly mi oni’n teimlo reit wirion. Mi fwynheish i er hynny.

Mi oedd hi’n anhygoel o braf. Mi losgish i fy sgwydda a fy mrest gan adael cylch crwn lle oedd fy mhendant. Dio ddim yn rhu ddrwg, felly allai ddim cwyno.

Hwn oedd y gem ola o UNO. Mi oeddwn i yn y drydedd safle, ar ôl disgyn o’r brig neithiwr wedi i nghariad wneud i mi bigo 6 cerdyn i fyny, a 4 cerdyn i fyny yn y gem wedyn gan achosi i mi gael 2 sgôr ucha’r twrnament. Mi oedd Tâd f'annwylyd ar y blaen o ddipyn go lew, a cefnder f'annwylyd cwpwl o farciau o’m mlaen i. Ar ôl dau gem (o dri), mi oeddwn i 1 marc o flaen y cefnder a tua 30 tu ol y tâd. Mi oedd y gem ola yn tense. Mi oeddwn wedi derbyn na fyddwn i’n enill, ond doeddwn i ddim eisiau colli i'r cefnder. Mi geshi 2il. Mi gurish i cefnder f'annwylyd yn y diwedd o 3 marc. Mi gesi 2 far o siocled am gael 2il!

Adra fory. Deni am fynd i ffactori siocled fach i weld cyn myn i archfarchnad anferth i wario gweddill ein arian. Deni’n hwylio am 5 felly mana ddigon o amser gan fod rhaid i ni adael y ty am 10. Dwi’n drist gadael, ond mi fydd hi’n neis bod adra unwaith eto gan mai dim ond noson dreulish i yno ar ôl dod nol o Aberystwyth. Dwi hefyd yn edrych mlaen i roi’r wŷ pasg anferth i’m mrawd. 1kg o siocled. Dwi di cal un i mam a dad hefyd (rhyngthyn nhw) ond dydyn nhw ddim yn bwyta gymaint a hynny o siocled felly dwi ddim yn edrych mlaen gymaint.

Bethbynnag; pacio.

Hwyl a sbrii

Ddim yn dallt be dwi’n son am? Wel, dwi’n Ffrainc am wythnos gyda fy nghariad a’i deulu. Ma’na naw ohona ni. Nain a Taid (ochr mam f'annwylyd), Rhieni f'annwylyd, f'annwylyd, ei frawd, cefnder a cyfneither f'annwylyd a mi. Dwi di gaddo i’m hun y wnai flogio bob dydd tra yma (a’i bostio ar ol cyraedd adra a smalio mod i wedi ei roi fyny ar y diwrnod gafodd o ei sgwennu!) sydd yn golygu fod rhaid mi flogio ddwywaith bob dydd. O, hwyl! Mi welai chi’n fuan! x

0 ymateb: