fuck all else makes Mari a grumpy guts. Dwi wir ddim yn trio copîo Chris yma drw son am sut dwi ddim yn adolygu. Mi oni wedi bwriadu blogio hyn neithiwr ond mi nai esbonio nes ymlaen pam wnesh i ddim.
Dwi di bod yn peidio sdydio drwy dynnu llunia moody du a gwyn o fy hun. Ond i fod yn deg, mi sdydiais i lot ddoe. Dechra tua 3 a gorffen am hanner nos (DYNA pam neshim blogio neithiwr!). 24 ochr A4 (narrow ruled wrth sgwrs) o sgwennu. Gan ystyried mai sdiwdant mathemateg ydwi, mi oedd o'n ddipyn o sioc i'r system.
Neshi ddim byd ond eistedd yma trw pnawn. Ac erbyn y diwedd oni'n decrha torri lawr. Onisho crio a gwylltio run pryd, isho cysgu ond methu. Ond odd rhaid fi orffen erbyn heddiw. Dwin cal dechra et heddiw! Woo.
Och, maisho gras i ddechra eto, ond a minna wedi gwneud mor wael yn f'arholiadau mis Ionawr, man rhaid. Di'r 3 wthos nesa ddim am fod yn braf...
Hwyl a sbrii
One little song
11 hours ago

1 ymateb:
Dal ati mwsh!
Bydd o i gyd werth o yn diwedd, trystia fi :-)
Llunia'n dda eniwe...
So, nôl i'r llyfre a wedum haf nyts o ddathlu wedu hyna, tywydd rhy crap i wneud ti isie mynd allan bethbynnag.
Go for it lodes!
Post a Comment