9.5.07

Diflasu

Pan oeddwn wrthi'n clirio fy llofft heddiw am y tro cynta ers tua dau fis, mi ddargynfyddish i ambell boster dr who oni wedi cal dros y pasg mewn papur newydd neu gan deulu f'annwylyd. Mi rois y posteri ar y wal ac wrth edrych o amgylch f'ystafell glan nawr, dwi'n dechra ama mod i'n mwy na licio doctor who. O be allaf i weld rwan, ma gin i 19 eitem dr who o amgylch yr ystafell. 10 poster neu lun, cerdyn post, plat dr who, tin dalek, remote control dalek, model David Tennant, infatable dalek (bach), dvd (cyfres 2), tegannau play mobil sydd fod yn doctor who (anrheg nadolig) a modelau bach sydd yn rhan o gem "warhammer-esque". Dydi hyn ddim yn cyfri'r poster dr who sydd lawr stair, y dvds o'r gyfres gynta sydd wedi'w menthyg na'r myg sydd gin i. Ma gin i hefyd ambell i fagazin. Newydd gofio fod na sdiceri wedi'w dotio o amgylch y ty...

Dwi'n ama mod i'n ffan...

Do, dwi wedi cael fy sbyrt achlysurol o llnau. Ma hyn wedi digwdd oherwydd fod gin i sdydio i'w wneud wrth sgwrs. A rwan ma fy llofft yn lan sbanci don a mana hen ddigon o le i swingio cath yma. Wele fi'n gloatio yma!

Dos na ffyc ol wedi bod yn digwdd ar y wê heddiw. Fel rheol ma gin i 4 ffenesd ar agor:
Maes-e - dal yn son am wleidyddiaeth mwy na dim arall ers yr etholiadau. Diddorol ond ddim mor ddiddorol a hynny!
Hotmail - sneb yn ebostio fi
Webmail - ebost wythnosol y coleg ac ebost am y cor nad ydwi'n rhan ohono bellach...ecseiting.
Facebook - Tawelach nag arfer heddiw dwi'n credu. Er, falla mai fi sydd yn reloadio'r dudalen yn amlach...trist iawn feri sad ond dwi'n addict! Dwi'n aelod o 72 grŵp....braidd yn excesive bosib!

Ma bywyd i'w weld wedi stopio tan ddiwedd yr arholiadau. Does na'm byd blaw neibys ar y teledu a di hwnnw ddim ymlaen yn ddigon aml rwsut. Dos na neb yn mynd allan. Dos na'm mwy o ymarfer rygbi. Ma'r tywydd di troi felly dim lanymor. Dim f'annwylyd tan wthos nesa. Dwi di diflasu braidd. Sgin im hydnoed awydd bwyd heddiw felly allai ddim coginio pryd eithafol i fy hun.

Och! Hwyl a sbrii

1 ymateb:

Elain Llwyd said...

Newydd ddod ar draw dy flog - diddorol iawn!!

Does DIM byd yn bod ar hoffi Dr Who...a does dim fath beth a hoffi fe gormod! 'Wi'n byw yng Nghaerdydd, ac pasio Canolfan y Mileniwm llawer rhy aml i fod yn gyd-ddigwyddiad..trio cal cip o Torchwood, ond heb lwc!

Dwi'n meddwl fod angen fersiwn Cymraeg.....cytuno??