24.5.07

So ffar...

Dwi di blino'n lan a mai wedi hen basio fy amser gwely ond dwi heb flogio ers dipyn felly dyma flog byr i grynhoi sut ma petha di mynd.

Arholiad rhif 1 - Bosib wedi pasio efo'r gwaith cwrs. LOT gwell na'r disgwl
Arholiad rhif 2 - Ofnadwy. Lwcus o gal marc o gwbwl. Neshi adal yr arholiad yn crio...wel naddo. Neshi adal yr arholiad a wedyn crio. Ah wel, methu neud dim wan.
Penblwydd F'annwylyd - Penwythnos hyfryd yn Lerpwl. Doeddwn i wir ddim eisiau gadael.
Arholiad rhif 3 - Mi eshi mewn i'r arholiad yn disgwl methu atab cwestiwn. Doeddwn i heb ddallt y darlithoedd trw'r tymor ac mi oedd y darlithwr yn newydd ac yn wael iawn. Ond, er nad ydwi heb basio'r modiwl (os nad dwin lwcus iawn iawn iawn), mi lwyddish i i gal dros 30, syn neis (i fi).

Heddiw? Dwi di treulio trw dydd heddiw yn cael diwrnod i'r brenin. Dwi di Chwara eye toy Play 3 sydd yn gem gwych efo ffrindiau, Final Fantasy x sydd yn gem gwych ar ben eich hun a Titanic: Adventure out of time sydd yn nostalgic iawn. Mi lwyddish i i orffen y gem, ond ddim yn dda iawn aparynlti gan ystyried fod y gem wedi gorffen gyda prydain yn wlad gomiwnist a finna yn cael fy saethu....hmmmm trio eto fory?!!!

Nos dawch gyfeillion, mi flogiaf eto'n fuan! Hwyl a sbrii

0 ymateb: