29.6.07

Cariad

Mana ambell hogyn sydd yn gallu tanio f'enaid a toddi'ng nghoesa. Ma David Tennant yn amlwg yn un. Ma Ceri anweledig yn un arall. Peidiwch a gofyn i mi pam, dydun nhw ddim o reidrwydd yn handsym iawn ond pan manw'n gwenu dwi'n eu caru nhw am byth. Dim cwestiynnau, dim meddwl ddwywaith, dim syniad pam. Dwi'n nabod un ne ddau arall a ma'n rhaid mi ddiolch i dduw nad oes gan unrhyw un ohonyn nw ddiddordeb yddof. Gin i gariad ers tair mlynedd a dwin hapus iawn diolch yn fawr. Dwin llwyddo i neud digon o betha gwirion heb gymorth sylw gan ambell berson anhygoel!!

Sgwrs mana genod efo'r un attributes. Allai ddim meddwl am unrhyw un sydd yn enwog yn anffodus a dwi ddim yn siwr os ddylwn i lincio iddyn nhw yma. Tydwi ddim eisiau pobl yn trio fy setio fyny a tydwi ddim eisiau'r rhai sydd ddim ar y rhestr fod yn insutled!!! Merched fel hyn fysa'n gallu fy nhroi i am split second. Petawn yn feddw iawn m fysa'r rhain yn gallu gwneud breuddwydion fy nghariad ddod yn wir!!

Mae'r bobl yma fel arfer yn gymeridau cryfion ac yn hawlio sylw gin bawb. Manw'n bobl hapus sydd yn glefar ac yn hyderus iawn. Dwisho bod yn un o'r bobl yma a dwisho bod efo nw.

Cyn gorffen ddylwn i nodi fod fy nghariad yn un o'r rhain, cofn fod o'n darllen.

Hwyl a sbrii

0 ymateb: