1.8.07

Ma hi'n bwrw yn y gegin

Pam o pam nad oes gin i ddim byd waterproof? Doedd gin i ddim côt felly mi fenthycais un tad f'annwylyd. Dydio ddim yn waterproof. Doeddwn i ddim yn disgwyl i convases fod yn waterproof a gwir i'r disgwyl, dydyn nhw ddim. Dyw hyd yn oed fy mhabell ddim yn waterproof!! (tydio ddim mor ddrwg a huna; ambell drip yn y rhan ganol)

A dyma fi. Yn flin efo'r haul am fy neffro i mor gynnar ac yn flin efo'm mladder am wneud i mi godi. Dyma fi. Yn flin efo'r cyfuniad o fflip fflops a mwd - ddim oherwydd fod fy nhraed yn baeddu ond yn hytrach achos fod y fflip fflops yn fflipio ac yn fflopio mwd i fyny fy nillad glan. Dyma fi. Yn sogi ac yn fwdlud mewn pabell yn nolgellau am 10 o'r gloch y bore. Dyma fi. Wrth fy fflipin modd!!


~~~xXx~~~

Mi sgwennais i'r uchod bore sadwrn seshwn fawr ond dim ond wan dwin cael cyfle i'w roi ar y blog. Un peth da am fynd nol i'r coleg fydd blogio'n amlach mwn. Dyma'r canlyniad i'r blog uchaf;

Un trip i'r toiled mewn fflip fflops a ma jins hollol gwbwl lan yn troi mewn i hyn. Woo hwyl.

Y rheswm am teitl y blog? Nodyn oedd ar ddrws y gawod bora ma. "Wierdo. Cawod sydun; mai'n bwrw yn y gegin". Ma'n digwdd reit aml. Bob tro deni'n llnau'r gawod, ma'n digwdd; denin sgrwbio gormod ac wedyun ma'r dwr yn dod trwodd. Ond neithiwr a hogla bleach yn llenwi fy ffroenau, mi oeddwn yn MYND i olchi'r gawod yn iawn os o gwbwl!

Ma fy matris am redeg allan rwan felly ddim blog call. Dwi dal yn fyw dwin gaddo. Dwin sdeddfod trw wthos nesa felly welai chi yno?

Hwyl a sbrii

0 ymateb: