Mae gin i ffrind. Wel, ma gin i fwy nag un ffrind (wir yr), ond ma'r un dwi am son amdano yn un person (a chydig mwy). Mae y tew yn un sydd yn hoffi ei beint, a mbach yn enwog o fewn ein cylch bach ni am wneud pethau mbach yn wirion pan ma di meddwi. Er enghraifft, yn ystod eisteddfod Casnewydd fe aeth ar goll am noson. Y peth cyntaf mae'n cofio ydi bod mewn bwsh heb ei sbectol na'i ffon. Fe ddilynodd noson sgeri ond doniol i bawb arall o grwydro drwy gerddi bobl, cysgu ar y grass verge ar dual carrigeway a chuddiad rhag y bobl oedd yn mynd mewn i'r eisteddfod.
Bethbynnag, mae wedi gwneud rhywbeth gwirion tebyg ers hynny yn reit aml! Pan gyrhaeddish i'r eisteddfod eleni mi oedd y tew yn goch. Doedd o heb allu dod i fy nol o'r car a'm helpu i gario petha at y campsait gan ei fod wedi llosgi ei bengliniau a methu cerdded heb fod mewn poen! Digon dineiwed a digon teg, mae rhywun yn gallu llosgi. Ond y diwrnod wedyn, mi oedd y tew wedi meddwi'n braf erbyn tua 4. Mi berswadiodd gweddill fy ffrindiau iddo drio gwneud summersault dros airbed dwbl. Ac wrth sgwrs fe driodd. A llwyddo i raddau helaeth.
Mi fuodd rhaid i'r tew fynd i'r ysbyty oherwydd ei fod wedi brifo'i ysgwydd ac ei fod mewn gymaint o boen. Mae hyn yn eitha drwg iddo fo gan nad ydio'n hoffi mynd i'r ysbytu (nathom mynd pan drodd ei dafod yn wyrdd ond yn hytrach shafio'r gwyrddni off efo rasal) felly rhadi ei fod o mewn dipyn o boen! Dim ond wedi'w gleisio yr oedd o ond mi oedd o'n handi iawn drwy'r wythnos gan ein bod yn gallu gweld faint oedd y tew di meddwi wrth faint oedd o'n gallu symud ei fraich chwith!!!
Bethbynnag, dwi am fynd i'r gwely rwan. Mwy o hanesion am yr eisteddfod i'w ddod drwy gydol yr wythnos gan gynnwys obsesif-cympylsif-ness, tywydd a fi'n swingio ffor arall am noson.
Hwyl a sbrii
Share And Share Alike
1 day ago

2 ymateb:
"...bod mewn bwsh heb ei sbectol na'i ffon."
Ie, dwi'n gwybod mod i'n stupid am ddweud hyn, ond y brawddeg uchod yn ddoniol iawn heb y to bach ar "ffôn."
Tihihihi, pethan ddoniol pan manwn fudur.
Post a Comment