Bethbynnag, teitl y blog. Ie, wel, nos Wener y sdeddfod mi oedd Fflur Dafydd a'r Barf yn chwarae ac mi ddisgynnais mewn cariad llwyr gyd Fflur Dafydd. Mi oni'n hoffi'w cherddoriaeth hi bethbynnag, nid dyna ydwi'n ei feddwl yn yr achos yma. Mi ddisgynnais mewn cariad gyda HI. Ei choesa yn bennaf. A'r gitar. Oh, i gael bod y giar hwnw!! Allaim ffindio llun o'r noson hwnnw ond dyma oedd hi'n ei wisgo;

Mam bach drychwch ar y coesa yna! Wel, ar ôl (ac o bosib yn ystod) ei set mi ddwedish i wrth unrhywun fysa'n gwrando (neu beidio, donim yn ffysi), gan gynnwys fy mrawd a fy nghariad, y fyswn i sô yn troin lesbian i Fflur Dafydd. Ac mi fyswn i.
Mai'n chwara yn Aber ar yr 22ain ac mi fyddaf yno yn ei haddoli. Mmmm, gwd sdyff.
Yyyym...be dwi di bod yn neud ers sdeddfod dwch? Dwi di bod yn Llundain am wicend a fydd na Lunia ar flickr pan gai laptop. Dwi di chwara fo Lego a fydd na lun o'r gwychder ar flickr yn fuan. A rwan dwi off i Wikipedia. Dwi di diflasu lot ond sgin im mynadd blogio chwiath. Ymddiheuraf.
Hwyl a sbrii

0 ymateb:
Post a Comment