Mi oedd mam a dad yn fod i fyn ar eu gwyliau rhyw bthefnos yn ôl. Ond mi gafodd mam ddannodd ac felly mi oedd gan y ddau wythnos off a dim i'w wneud. Felly dyma benderfynnu gwario'r arian a'r amser ar beintio'r ty yn wyn. Lle ma'r synnwyr yn y syniad yma dwi ddim yn siwr ond dyna ni. Felly yn ystod yr wythnos dyma droi'r ty yn wyn; sydd, mae'n rhaid i mi gyfaddef yn edrych yn lot gwell. Mi oedd na gyfnod lle roeddon edrych yn od ac ipyn bach fel clown ond ma hwnnw di pasio.
Dwi'n dychwelyd yn ôl i'r coleg wicend ma. Dwi ddim yn siwr iawn pryd oherwydd fod mrawd angen mynd yno yr un pryd. A rhyngtho ni ma genym ni LOT o sdwff. Ma mrawd yn mynd ddydd Sadwrn efo'i sdwff, ma hynnyn sicr. Ond beth amdanai? Ydwin mynd lawr efo'm sdwff ddydd Gwener, ta ydwi'n cael liffd lawr dydd Sadwrn rhywsut (efo mrawd gobeithio) a fy sdwff yn cyrraedd ddydd Sul pan fydd dad yn pasio bethbynnag? Cawn weld.
Ond pan fyddaf yn dychwelyd, dychwelyd heb fy laptop fyddai. Mae wrthi'n cael ei drwsio rwan. Mi gostith hi £130 i mi. Mae'n ddadleuol os ydi hin werth talu hynny ond mi dwin attached i'r laptop a methu fforddio £130 heb son am fwy i gal laptop newydd!! Felly werth o neu beidio, mi fyddain dechra fy mlwyddyn ola yn Aber efo llai o bres nag erioed.
Tan gai fy laptop yn ol felly, hwn yw fy mlog ola gan y fyddain pacio/deud tata/cysgu.torring ngwallt yn ystod y dyddia nesa.
Hwyl a sbrii
One little song
11 hours ago

1 ymateb:
Joban dda ar y peintio Mari!
Hwyl fawr i ti ar ddechrau blwyddyn newydd o goleg....a gobeithio y cei di sortio'r laptop allan yn fuan.
Hwyl am y tro.......
Post a Comment