11.10.07

mysh o ddarlithoedd a meddwi

Mae'r dyddia'n hedfan heibio a dwi wedi bod yn ol yn y brifysgol ers ddigon agos at 3 wythnos. A hwn yw fy mlog cynta ers dod yn ol. Mi wn nad oes esgus am hyn ac ymddiheuraf. Mae'r dyddiau erbyn rwan yn cymysgu'n un mwsh mawr o ddarlithoedd a meddwi.

Ond, i fod yn deg dwi wedi bod ym mhob darlith oni bai am un. Sydd yn wych i mi. A'r unig reswm fethish i'r un ddarlith yna oedd achos mod i'n hynnod hynnod hyng-ofyr. A dwi di cal y nodiada i gopiio i fyny felly pw i unrhywun feiddia edrych yn flin arnai am ei fethu!

Wedi dweud hyn i gyd, mi fysa'n anodd i mi fethu lot o'n narlithoedd. Dydd off ddydd llun, diwrnod llawn ddydd mawrth, dydd off dydd mercher, bora llawn ddydd iau a mond 2awr dydd gwener. Unwaith dwi fyny yn fy narlithoedd, mi ai i bob un. Codi allan o'r gwely sydd yn drafferth.

Ar ddyddiau fel dydd Mawrth lle dwi fyny ar y campws drwy'r dydd; yn cael cinio ym mhantycelyn a phopeth, dwi'n bord iawn iawn. Rwy'n eistedd yn y mwyafrif o ddarlithoedd yn coiio'r nodiada manw'n sgwennu ar y bwrdd du tra'n trio peidio gwneud cyswllt llygaid cofn iddyn nhw ofyn cwestiwn i mi. Ar ddiwrnodau fel hyn ma' petha syml yn fy ngwneud yn hapus. Er enghraifft rhywun yn gwneud synnau secs/orgasm tu allan i'r ddarlithfa. Mi roth hyna gigl dda i mi. Neu brynu guardian am 30c a chael llyfr coginio am ddim. Gwd sdyff.

Wedi i mi brynu'r guardian am 30c dwi wedi ei brynu eto ddwrnod wedyn gan fy mod eisiau gwybod ateb y croesair! Dwi ddim yn or-hoff o'r guardian fel papur newydd - mbach dros fy mhen i, ond mae'r chwilair sydun yn eitha syml ac er nad ydwi wedi gallu ei orffen, dwin mwynhau trio. Scam da gan y guardian - fy nwyn i mewn gyda llyfr coginio a phapur newydd rhad a rwan dwi'n sownd. Damia nw.

Er nad ydwi wedi bod yn blogio lot yn ddiweddar dwi wedi bod yn cadw cofnod ar beth sydd angen i mi sgwennu amdano. Felly na phoenwch; mi gewch yr arferol fwydro ond falla fydd rhaid i chi aros yn hirach amdano. Dwin hynnod hynnod ddiog!!

Hwyl a sbrii

0 ymateb: