17.11.07

Nadolig??

Dwi di drysu'n lan.

Canol mis Tachwedd ydi hi, mi wn hyn.

Mae popeth ar y teledu ac yn y siopau a phobman o f'amgylch yn ceisio fy mherswadio ei bod hi'n ddolig yn barod. Ond dwi wedi arfer efo hyn, mae o'n digwydd bob blwyddyn.

Dwi bron yn hollol hollol sicr fod hin nadolig. Dwin canu caneuon nadolig, yn meddwl am anhregion...dwi yn nadolig-mode mis yn gynar. A diom ots be dwin ddweud wrth fy hun, mai dal yn nadolig...

A nid fi yw'r unig un. Mana ferch arall sydd yn byw yn yr un ty a mi yn teimlo'r un fath. Ond mae hi wedi penderfynnu peidio ymladd y teimlad a derbyn ei bod hi'n nadolig cynnar. Dwi'n gwrthod ac felly mewn byd o ddryswch.

Allai ddim meddwl beth sydd yn wahanol eleni. Yr unig beth allai feddwl ydi mod i wedi mynd adra i weld mam a dad am y tro cynta ers cychwyn coleg lot hwyrach nag arfer. Pan eshi adra rhyw bthefnos yn ol, mi oedd hi'n teimlo fel y dolig. Mi oedd hin oer ac yn dywyll yn gynnar, mi eshi am dripiau i weld lot o'r teulu a mi oni adra am rhyw 4 noson, sydd yn fwy nag arfer.

Dydio'm ots faint o weithia dwin dweud wrth fy hun nad ydi hi'n ddolig eto, a gorfodi'n hun i beidio meddwl am y peth tan y 1af o ragfur...

Dolig Llawen!?
Hwyl a sbrii

2 ymateb:

Linda said...

Hei , Nadolig Llawen i ti hefyd Mari :)
Yn dod adref i Gymru y Nadolig yma [ y cyntaf ers 1996] felly wedi bod wrthi'n brysur yn siopa ers oleiaf pythefnos! Ac wedi bod mewn tair ffair Nadolig yn barod.
Hwyl.....

Hogyn o Rachub said...

Dachi'n gwbl iawn ddynas. Dwinna'n teimlo 'nunion 'run peth a chdi. Eniwe, dw i'm yn licio Dolig.

Dw i newydd weld hysbhyseb Kenco. Ma'n rybish.