20.2.08

Teimlo fel Storm

Geshi hunllef echnos.

Wel, a bod yn onesd doedd o ddim wir yn hunllef. Wneshi ddim deffro yn crio na deffro llawn ofn. Mi neshi ddeffro yn casau pawb a phopeth.

Roedd codi yn gangymeriad, mi ath popeth yn waeth wedyn.

Oedd yn golygu mod i'n cerdded ogwmpas ddoe fel petai storm yn hongian uwch fy mhen. Mi oedd y ty yn fler, mi oedd darlithoedd yn waeth nag arfer a ma pres yn boen yng nghefn fy meddwl srwy'r amser.

Treuliais lot o amser yn fy llofft yn cuddiad ac yn gwylio sothach ar y teledu. Mi oedd Neibys a Home & Away yn helpu!

Mi ystyriais ddod yma i flogio ddoe ond penderfynnais peidio gan fy mod yn teimlo mor flin efo pawb a phopeth. Dwi';n falch mod i heb hefyd, mi fyswn i wedi dweud rhywbeth drwg.

Chi byth yn teimlo mor flin, does na dim all neb ei neud i helpu? A chi'n gwybod ei fod o am basio, a chi'n gwbo na hormons/di blino/bod yn wirion ydio/ydych chi ond di huna ddim yn sdopio chi fod yn flin. Geshi o eto neithiwr - rhywun di meddwi ac yn neud swn dros y ty i gyd; slamio drysa, gweiddi a.y.y.b. A finna wedi fy neffro oni'n fuming. Swni di gallu hitio fo. Yn galed. Sawl gwaith. Ond, erbyn bore ma, mi oedd o'n jóc wrth sgwrs, a hydynoed fi, oedd mooor flin neithiwr, yn ymuno á'r hwyl.

Dwi'n gwybod pryd dwi mewn mwd. Dwi'n teimlo nw'n cyradd ac yn pasio. Dio'n helpu dim.

Hwyl a sbrii

0 ymateb: