3.4.08

Ffrainc - Diwrnod 2 - Nadolig Llawen

Dyma ddymunodd mam f'annwylyd i'w gefneither bore ma. Dim joc fel ma bobl yn gneud weithia: dweud y peth anghywir yn fwriadol, ond cangymeriad hollol onest.

Pasg hapus oedd hi'n feddwl wrth sgwrs. Mi geshi diwrnod plentynaidd iawn heddiw gan ddechrau gyda chwilio am wyau pasg bacho gwmpas llawr gwaelod y ty.

Brecwast cyntaf yn y ty heddiw; croissants, french stick a jam. Gorjys. Yr unig broblem oedd fod y trydan dal ddim yn gweithio ac felly doeddwn i methu rhoi fy nghroissant yn y microwave - croissant cynnes yw fy hoff mrecwast yn y byd i gyd yn grwn.

Wedyn ymlaen i explorio'r dref ac i chwilio am y farchnad. Ac wrth sgwrs wedyn mi oedd rhaid hmmio a hoooio os dwi'n mynd i brynu hyn neu'r llall cyn setlo am dop llewis hir du a maroon sydd yn edrych fel dillad gwrach.

Gan fod hi'n ddydd Sul y pasg mi dreulwyd y prynhawn yn gwneud croeseiriau ac y chwarae cuddiad yn y ty tra roedd hi'n wlyb ac yn afiach tu allan! Hyfrytwch!

Wedyn, fel pob blwyddyn arall, chwarae gemau rownd y bwrdd. Cranium oedd hiheno, sydd wastad yn hwyl. Y gorau dwi'n meddwl edd gweld tad f'annwylyd yn trio actio "fairy cake" - doniol iawn. "Hairy shake" oedd y peth natho actio yn y diwedd; ond dim ta ar ol iddo fo drio actio fel tylwyth teg!

DVD a gwely wedyn - pa ffordd gwell o dreulio dydd Sul?! Allai ddim meddwl am ddim un llawer gwell fy hun!

Hwyl a sbrii

0 ymateb: