3.4.08

Ffrainc - Diwrnod 3 - Adar

Heddiw mi aethom ni i warchodfa adar. Sydd yn beth ddigon dewr i mi yn fy marn i gan mai adar yw un o fy ofnau mwyaf. Ond wedi dweud hynny, doeddwn nhw ddim yn hedfan o gwmpas rhyw lawer, heb son am fflapio yn fy nwyneb! Tydio ddim yn ffobia o bellffordd (er ma' f'annwylyd yn ffobia pan ma'n sdyrbio ar fywyd o ddydd i ddydd a dwi'n dueddol o gadw i ffwrdd o adar pan yn bosib); yr unig phobia dwi di gal erioed ydi disgyn am yn ol a dwi wedi concro hwna i raddau helaeth...ish.

Eeeeniwe, gwarchodfa adar. Mi sylwais heddiw cyn lleied dwi'n gwybod am adar. Mi oedd pawb arall yn pwyntio adar allan ac yn eu henwi yn syth. A finna yna efo binoculours wedi'w menthyg, ar gora oni'n gallu'w wneud oedd mynd "ylwch, aderyn". Mi welais i lot o adar ond peidiwch a gofyn i mi pa rai oedden nhw! Mi oedd na greebe neu ddau, stork, hwyaiad, crane, avocets (er mod i'n mynnu galw nw'n advocat) a llawe iawn mwy o rai dwi heb glywed amdanyn nhw o'r blaen ac wedi anghofio amdanyn nhw syth wedyn bethbynnag.Mi oedd yr hanner cyntaf o'r diwrnod yn dda iawn; mi oeddwn yn mwynhau fy hun er fy niffyg gwybodaeth. Ond wedyn disgynnodd y tymheredd; mae'n rhaid ei fod o wedi - pan gychwynnom ni, doeddwn i ddim wir angen het ond erbyn pan oedden ni hanner ffordd drwy'r warchodfa mi oedd hi'n bwrw eira ac mi oedd fy nwylo wir yn teimlo fel eu bod yn mynd i ddisgyn i ffwrdd.

Dwi erioed wedi gwneud gymaint o groeseiriau yn fy mywyd fel cytanswm ag ydwi wedi'w wneud wythnos yma - dwi'n dechrau eu mwynhau! Y rheswm deni'n gwneud gymaint dwi'n meddwl ydi achos fod y trydan dal ddim yn gweithio!! Mi drion ni wylio ffilm heno ond i drodd y trydan ei hun i ffwrdd hanner ffordd drwy'r ffilm gan olygu fod y ffilm yn anhygoel o dawel! Niwsans iawn iawn.

Ah wel, Abbeville fory. Hwyl a sbrii

0 ymateb: