Dwi wir wedi gorffen coleg. Ma raid mod i - fy mod i nawr yn y byd oedolyn go iawn ydi'r unig reswm allai feddwl amdano i gael dau pryd bwyd posh mewn wythnos!
Yr un cynta oedd pryd neis o fwyd yn lerpwl i ddathlu penblwyddi cynnar/hwyr bron i bawb oedd yn byw efo f'annwylyd (a finna hefyd gan mod i wedi dathlu fy mhenblwydd yn 21 y dydd llun blaenorol). Mi aethon ni am fwyd i Circo yn y docks ac mi ydoedd hyfryd!* Mi geshi mushroom rarebit a spinaich naan pizza. Hyfyrd. Hwnnw oedd y caws ar dost hyfryta gefais erioed ac mi oedd y pizza yn lyfli jybli hefyd ac yn ddigon hawdd i'w wneud fy hun (naan bread, tomato puree, spinaich, caws cryf). A mi rannais bwdin toffi sdici i orffen.
A'r ail bryd ym mron eifion criccieth i ddathlu penblwydd 21ain fy ffrind gorau. Ar un llaw swni'n anhebygol iawn o fynd yno a finna yn talu ond ddim ond oherwydd fod £30 yn fwy na sgin i yn y banc. Ond ar y llaw arall mi oedd y bwyd yn benigamp. Parafit iau cyw iar a thost i ddechrau oedd yn ddigon blasus i fwyta fel bob pryd am fis. Belly porc wedi'w socian mewn afal wedyn efo llusiau a ballu a tart siocled tywyll efo hufen ia i orffen. Iym iym iym!
A dyma fi. Adra am bethbynnag blwyddyn heb geiniog yn fy mhoced! Oleia mod i wedi cael wii ar fy mhenblwydd i fy niddanu. Ffindio job fydd nesa mashwr. Bleuch.
Hwyl a sbrii
*Mi fydd lluniau pan gai gopi ohonyn nw
Share And Share Alike
1 day ago

2 ymateb:
Ah....gorffen coleg , dweud ta ta, cael hyd i swydd ayb. Fydd petha byth run fath eto !
Paid â phoeni'n ormodol - mae'n cymryd blwyddyn go dda i fynd allan o'r "stiwdant mode" beth bynnag, a dydi bod allan ohono ddim yn rhy ddrwg ... dwi 'di gorffen coleg ers dwy flynedd rwan a dw i'n dal i feddwi a gneud antics, ac mae bywyd yn grêt!
Post a Comment