23.6.08

Penwythnos osym

Wel, nachi'r haf wedi dechra go iawn. Mi gyrhaeddish i adra ddoe wedi blino'n lan ac yn drewi dipyn go lew. Gwychder yr haf wedi cychwyn o'r diwedd.

Dydd gwener
Cael lifft lawr i Aberystwyth a wedyn parti pwnsh yn nhy newydd fy mrawd yno. Ma pynsh yn lethal. A minna yn downio gymaint a phosib gan modi'n trio arbed arian a doedd y pynsh ddim yn fy meddwi bethbynnag. Hynny yw tan i mi adael y ty i fynd i gig texas radio band yn yr Angel. Dau beint o siedr yn fana ac wedyn dwi jesd abowt yn cofio mod i wedi mynd adra i'ng ngwely ar ol gwario dim ond £10 (£5 o hwnw ar fynd i mewn i'r gig!).

Dydd Sadwrn
Brecwast yn varsity er mwyn trio sobri ein designated driver. Yno trafod y planiau. Y plan gwreiddiol oedd cael tacsi i Llanrwst ac aros yn ty rhywun yn fana. Ond doedden ni methu cael tacsi. Felly ystyried campio ym mlaenau - doedd hi ddim yn dywydd neis iawn felly cysgu yn y car oedd y dewis terfynnol.

Wedi i'r gyrrwr sobri dyma ni off i Blaenau. Cyrraedd y clwb rygbi a phwy oedd yn chwarae oedd Meic Stevens. Doeddwn i ddim hydnoed yn gwybod fodo yn chwarae yno (mi oni jesd wedi mynd gan mod i di joio'r flwyddyn gynt). Gwychder pyr. Mi joiais Y rei wedyn hefyd, am y tro cynta erioed.

Wedyn meddwi wa mwy o fandiau. Mi oedd cowbois yn wych (fel arfer) a mi fwynhais Gai Toms fyd. Wedyn mwy o feddwi...a wedyn....

Dydd Sul
...deffro yn y car a sylweddoli fod trio cal 4 person i gysgu mewn car bach piws (rél dynas dydw, dim syniad be odd y car. Dwim yn shwr osoddon biws chwaith a dweud y gwir yn onesd...pwis-i-glas-ish) yn syniad sdiwpid. Bach o tait ffit.

Dipyn o fwynhad i gal yn y bora wrth glywed straeon pawb. 2 yn cal walk fach neis yn chwilio am dafarn (mi oedden nw yn cerdded am rhyw hanner awr go dda). Un yn cal shelffiad yn gefn i fan (ond diom cweit yn cofio) a huna ar ol dreifio'r fan o un carpac i un arall (diom yn cofio dim am huna) gan falu ei wing mirror ar y ffordd.

Wedyn off a ni i chwilio am gaffi. Mi gerddon ni am dipyn heb weld dim caffi agored. Yn y diwedd mi ofynen ni i ryw ddynes os oedd hi'n gwybod lle oedd na un. Mi ddilynon ni hi a mi gerddodd hi at ddrws ac ei agor a voila - hi oedd pia'r caffi. Brecwast llawn hyfryd yn fana a sawl panad a wedyn isda yng nghefn fan ar air-bed yn siarad ac yn chwerthin am ddim byd (ac yn teimlo fel mod in cymryd drygs er mod i ddim).

Eniwe, ma hwn yn mynd yn hir. Felly dyma weddill y stori yn sydun - isda yn carpac blaena, isda yn carpac traws, isda mewn pyb yn traws, chinese takeaway, gwylio national treasure 2, chwara gem, adra, gwely.

Gwych, Hwyl a sbrii

3 ymateb:

Linda said...

Yn falch o weld dy fod yn dal i joio! Mae darllen dy hanes yn fy atgoffa fi o ddyddiau gwyllt coleg:)

Wierdo said...

ooo na! Ma huna'n swnio fel fod y dyddia gwyllt yn goro gorffen! O na!

Linda said...

Lol.Paid a phoeni ....ella fod y gwylltineb yn mynd , ond mae'r hwyl yn dal i barhau :)