Ers cyrraedd adra ma'na lot o betha wedi dechrau fy ngwylltio gormod. Digon teg gwylltio ond ddim cweit gymaint ag ydwi. Digon teg trafod y gwylltio hyn â phobl erill ond ddim ei drafod eto ac eto ac eto. Felly dyma eu trafod mewn blog a cheisio cael eu gwared o'm mhen: er fy mwyn i a fy nheulu.
Bysus
Mae'n ddiogn o boen i orfod dal bys i bobman bethbynnag ond dwin shwr ei fod yn anoddach yng ngharmel. Does dim bysiau ar ddydd Sul nag ar wyliau'r banc fell dim penwythnosau i ffwrdd heb fod yn barod i gerdded 2 filltir adra. Ond dwi i raddau wedi derbyn hyn, jesd abowt.
Ond mae'r ffaith fod fy mysiau i gyd yn mynd drw bob man a nunlla yn fy nghorddi i yn llwyr. Dwin gwybod fod rhaid i'r bysiau fynd drwy'r llefydd yma, fel y mae rhaid yddyn nhw fynd trw Carmel, ond tydwi ddim eisiau bod arnyn nhw! Dyw hi ddim yn fod i gymryd dros hanner awr i neud taith llai na chwarter awr. Dwin gwybod nad yw hyn yn swnio mor ddrwg a hynny ond yn ychwanegoli hyn mae'n costio 50c yn ychwanegol i mi ddal bys o fama na fuasai i mi o 2 filltir lawr y ffordd. Anhecwch!!!
Gwaith Ffordd
Mae'n teimlo fel fod Gwynedd gyfan wedi troi mewn i un rhes gyfan o waith ffordd. Mi gymerodd awr yn ychwanegol i mi gyrraedd rhywle (ar fys) diwrnod o'r blaen yn gwbwl oherwydd gwaith ffordd. Mi oeddwn wedi colli'r awydd i fyw erbyn diwedd!
Pryfid
Ma hyn yn digwydd i mi bob blwyddyn. Mana bryfid Ym mhob man yn y ty ma. Wel, dim mwy na rhyw 5 ne 7 mewn gwirionedd ond manwn niwsans iawn iawn. Dwin cael ambell foment o redeg o gwmpas y ty yn trio dal y pryfid sydd yn gwneud i bawb arall edrych yn od arnaf fi ond dyna ni. Hwfro nw ydir ffordd ymlaen.
Dyna ni am wan. Dwin teimlon well wan. Ymddiheuraf am y rantio a'r creulondeb i anifeiliaid. Hwyl a sbrii
One little song
11 hours ago

2 ymateb:
Gwnaf i hwfro'r corynnod hefyd, ond wedyn pryderaf y maen nhw'n adeiladu rhyw fath o nyth enfawr yn y hoover.
Damn. Fydd rhaid fi checio wan rhag ofn!
Post a Comment