15.7.08

Gwyliau

Dydym ni heb fod ar ein gwyliau fel teulu cyfan ers ni fynd am benwythnos hir i'r Gelli rhyw 3 neu 4 mlynedd yn ol. A doedd hynny ddim yn wyliau teulu go iawn: yn lle campio fel oedden ni wedi bob tro o'r blaen, aros mewn ty oedden ni. Oedd ddigon teg am 3 noson, ond dal yn wahanol iawn i'r arfer. Mi dreulion ni lot o amser mewn siopau llyfrau, a lot o amser yn gneud jigso. Hyfryd.

Ond ers hynny, dim. Dim cynnig, dim noson yn yr un gwersylla, dim. Dwi'n ama fod hyn yn bennaf oherwydd fod gin i frawd bach sydd yn rél tínejyr, er gwaetha'r ffaith ei fod o yn 19 bellach. Peidiwch a camddallt, mae o lot gwell nag oeddo, ond dydio ddim yn fy nhrawo i fel rhywun fysa'n mynd ar ei wyliau efo mami a dadi a chwaer mawr ddim mwy. Sydd yn sbwylio'r hwyl i mi tydi?

A gan nad ydyn yn mynd fel teulu ar ein gwyliau bellach, dwi'n dibynnu ar deulu f'annwylyd. Dwi'n mynd i Ffrainc efo nw bob pasg, ac i Madrid wicend nesa. Ma bywyd yn galed ond ma'n rhaid i rywun ei fyw.

Ond nid y gwyliau sydd yn bwysig. Dwisho mynd ar wyliau efo mam a dad, yn enwedig wan mod i ddigon hen i yfed ac edrych ar ol fy hun. Dwi hefyd eisiau gallu cynnig i f'annwylyd ddod efo ni, yn lle derbyn eu gwahoddiadau nhw heb roi dim yn ol drwy'r amser.

Ma' mam a dad bethbynnag, dal yn mynd ar eu gwyliau, heb fi a'm mrawd. Dwywaith y flwyddyn os nad mwy. Braf iawn arnyn nhw. Peidiwch a camddallt, mae'n bwysig iddyn nhw gael amser i'w hunain (*shudder*) ond...wel, dwisho bod yn hunanol!!

Mae mam a dad ar eu gwyliau ar y foment, ac mai'n braf iawn cael y ty i fi a'm mrawd. Mae hi'n braf iawn peidio goro llnau'r ty cyn i mam gyradd adra, ond gneud pryd denisho yn lle. Peidio goro poeni mod i wedi anghofio gneud rhywbeth...

...tan manw'n cyradd adra dydd Iau bethbynnag!

Hwyl a sbrii

2 ymateb:

Chris Cope said...

Dwi ddim wedi mynd ar wyliau â'm rhieni ers 1996. Wrth gwrs, I can't stand my parents.

Wierdo said...

I suppose mod inna rhu hen. Dwi'n 21! Di bobl 21 ddim yn mynd ar ei gwyliau efo'u rhieni nadi....bah