14.7.08

Dysgu o gangymeriadau

Dwi wedi ystyried sawl gwaith symud y blog yma i wordpress. Dwi ddim yn siwr iawn pam, ond ma'n swnio fatha syniad da. A'r gobaith yn y dyfodol ydi cael un cyfeiriad we sydd yn lincio i wefan lle mana ddewis os mai'r blog yma ta'r un saesneg dechi'n cyraedd.

Swish.

A mi benderfynnais fod wan yn amser da i wneud hyn, gan fod gin i dros yr haf i'w wneud o, ac yn ogystal a hyn, dwi yn ceisio gwneud y blog yn fwy "anonomous" cyn dod yn athrawes. Chos dwi ddim ffansi cael un o fy nisgyblion yn darllen am fy "drunken escapades" fel petai.

Yn anffodus, dydio ddim yn gweithio felna.

Tro dwetha i mi drio, mi lwyddish i gyraedd nunlla gan nad oeddwn i yn gallu ffindio nunlla i fy hostio am ddim. Chos dwim yn dallt.

Ond troma mi oni'n meddwl mod i wedi'w dallt hi; wedi cael y syniad gora erioed. Gofyn i fy mrawd wneud o i mi. Gwychder pur.

A mae o wedi gneud bob dim i mi. Ond allai ddim ei weithio fo. Damia wir!

Mana bosibilrwydd mawr cofiwch fod y peth yn syml iawn, ond mod i wedi lladd i gyd o fy brain cells wrth yfed gormod dros y penwthnos.

Hwyl a sbrii

3 ymateb:

Chris Cope said...

Yn wastad dwi'n meddwl am wneud yr un peth: ymgorffori fy mlogiau, fel petai. Erbyn hyn dwi'n rhy ddiog i'w wneud.

Wrth gwrs y broblem gyda symud i Wordpress yw'r ffaith taw colli dy archives wnei di.

Wierdo said...

Dwi lot rhu obsesive compulsive i neud huna. Ma'n bosib transferio blogs o blogger i wordpress dwin meddwl, ac os ddim, dwi'n fodlon copy and paste dros 400 o bostiau.

Trist, ond os oes rhaid....

Hogyn o Rachub said...

'Roll sy angen i chdi neud ydi tynnu'r llun ohonot i ffwrdd de. Mae 'na ddigon o bobl ar blogspot sy'n anonymous. A ti'm rili isho copy+paste 400 o gofnodion nacoes?