Wel, dyma fi unwaith eto, heb geiniog i'm enw a dim ond gwario i edrych ymlaen ato! Mewn gwirionedd, mae'r diffyg gwaith yn beth da ar y foment, gan fy mod mor an hygoel o brysur!
Wythnos yma, dwi'n helpu dad efo'i lechi - ma'r amser o'r flwyddyn wedi cyrraedd ble mae o wedi cael ordor gin CADW a mana filoedd o lechi i'w oilio. Mae oilio llechi yn swydd ddiflas iawn iawn ac yn un o fy nghas bethau. Dwi'n cal coasters, yn eu rwbio mewn carped sydd yn damp efo linseed oil, rwbio'r llechi eto mewn carped sych, sdicio ffelt ar y cefn, rwbio'r ochrau yn y 2 garped a wedyn eu sychu gyda clwt sych. Eto ac eto ac eto.
Ond dyna ni, dwi wedi dod adra o dy f'annwylyd am hanner awr wedi saith yn y bore i oilio llechi bore ma er mwyn gallu cael rhyw fath o hwyl bore ma.
Wicend ma, ma angen dathlu penblwyddi dwy o'm ffrindiau - sydd yn rywbeth i edrych ymlaen ato!
Ond penwythnos nesa mae'r gwir brysurdeb yn dechrau. Wythnos i ddydd Gwener, dwi'n graddio. Dwi dal yn gweld hyn yn anhygoel a dwi wir ofn y seremoni. Dwi'n cofio gweld lluniau o seremoni graddio mam pan oeddwn yn fach a meddwl ei bod hi'n hen. Gwirion, mi wn ond fel yna mae meddwl plentyn yn gweithio! Ond wan dwi'n hen!!
Wedyn, ma seshwn fawr. Gobeithio neith mam a dad brynu peint ne ddau i mi yn fana gan fy mod wedi graddio!!
Ar y dydd Llun wedyn mae f'annwylyd yn graddio. Trip i Lerpwl felly i sefyll y tu allan i'w seremoni graddio. (doedd o methu cael ticed i mi, ond dim ots)
Dydd Mawrth? Ma gin i gyfweliad i wneud cwrs dysgu ym Mangor.
Dydd Mercher, dwi'n gobeithio rasio'r tren yng Nghaernarfon. Ras 5km ydi hwn o Ddinas i Gaernarfon. Dwi wedi rhedeg hwn o'r blaen, dim ond o ran chydig o hwyl. Tro dwetha i mi ei redeg, mi gurodd f'annwylyd fi, sydd yn ddigon teg, ond mi gurodd ei frawd bach fi hefyd...chydig bach yn imbarrasing. Gobeithio fyddai mbach gwell eleni gan fy mod yn gallu rhedeg milltir a hanner heb gormod o broblem erbyn hyn...sydd yn ddechrau.
A wedyn dydd Iau, dwi off i Madrid. It's a hard life but someone's gotta do it!
Fydd hi'n neis cal brec i fynd i sdeddfod...os fydd gin i bres!
Eniwe, mi onin mynd i gal rant am drefn newydd Radio Cymru, ond nai adal hwnnw am wan. Os fydd o dal yn fy nghorddi pan fyddaf yn blogio nesa, mi gofnodai fy ngwylltineb bryd hynny!
Hwyl a sbrii
Share And Share Alike
1 day ago

1 ymateb:
"oilio llechi" swnia hynny fel sexual metaphor.
Post a Comment