
Pnawn dydd Sadwrn mi wnaethom ni rywbeth gwirion gwirion iawn. Mi aethom ni am dro i'r parc, yn Madrid, ym mis Gorffennaf, am 2 o'r gloch. Mi oedd hi'n chwilboeth! Mi grwydro'n ni gysgodion y parc yn eu cyfanrwydd mi gredaf, dim ond yn mentro i'r haul pan fo wir angen a bryd hynny yn frysiog tuag at y cysgod nesaf. Ond, daeth ein iachadwriaeth.
Sangria.
Mi eisteddon ni yn y parc am bethbynnag awr yn yfad sangria ac yn gwylio'r byd yn pasio. Mi oedd spiderman yna, a minnie mouse yn ogystal a chymeriadau hyd a lledrith eraill. Ar un adeg, cerddodd gwpl newydd briod heibio yn cael eu lluniau wedi tynnu a mi oedd na ddyn yn chwarae'r ffidl wrth ein hymyl.
Bizzare a dweud y lleia, ond mae'n bosib iawn mai effaith y sangria ydoedd!
Gweddill y diwrnod, rhaid cyfaddef, yr un peth ag arfer. Crwydro'r dref yn bwyta lle bo cyfla, yn yfad sangria pan oedd galw ac yn eistedd ble roedd set. Nefoedd. Piti mai hwn oedd ein noson olaf!
Hwyl a sbrii

0 ymateb:
Post a Comment