Mae hi'n amser unwaith eto, i feddwl am wisg calan gaeaf. Mi ydwi wrth fy modd a chalan gaeaf, ac o wisgo fyny, ac o feddwi. Ac er mod wedi gadael Aberystwyth , mi fyddaf yno am galan gaeaf unwaith eto eleni mewn gwisg anhygoel o wych a sgeri.
Ond, chi'n gweld, dwi angen help. Drwy hyd a lledrith y wê, mae gin i ffydd y fydd yna syniadau anhygoel a gwych ar y blog ma erbyn calan gaeaf. Felly plis plis plis, gai help?! Mi fuasai unrhyw syniadau yn cael eu gwerthfawrogi!
Mae'n rhaid i chi ddallt mod i ddim yn gwisgo fyny calan gaeaf i edrych yn dda. Dwi'n anghytuno'n llwyr gyda'r syniad o enethod yn edrych yn secsi mewn gwisgoedd halawïn. Mewn calanau gaeaf wedi bod, rwyf wedi bod yn dracula (eshi am all out commitment drwy jelio fy ngwallt yn ôl, ond mewn gwirionedd, doedd o ddim mor sbeshal a huna), dwi wedi bod yn zombie (odd hwn yn well, mi oedd gin i fraich wedi ei hanner fwyta i gario o gwmpas efo mi) a dwi wedi bod yn pumpkin (hen oedd y gora oni bai am y ffaith fod fy fat suit wedi malu hanner ffordd drwy'r noson, ond mi allai gael un arall os oes angen).
A dwisho topio hyna eleni. Dwin mynd yn ol i Aber fel rhywun llwyddianus yn y byd go iawn sydd heb golli ei synnwyr o feddwi a hwyl. Dyna'r meddylfryd bethbynnag.
Help os gwelwch yn dda!
Hwyl a sbrii
Share And Share Alike
1 day ago

0 ymateb:
Post a Comment