Dwi'n ymddiheuro o flaen llaw os ydi mam neu dad yn darllen y post yma. Dwi'n gwybod eu bod yn gwneud o dro i dro, a phan caf wybod am y postiau y mae'n nhw'n darllen, dwi wasdad yn difaru eu postio. Ond ni chaf (yn yr achos yma bethbynnag) fy rheoli gan ofn.
Mae mam yn gallu bod yn flin. O dro i dro bethbynnag. A phan mae hyn yn digwydd, gwae unrhyw berson a wna gangymeriad. Gwae unrhyw berson a fydd yn ei ffordd. Gwae dad.
Pan mae f'annwylyd fam yn flin yr unig beth i'w wneud ydi cuddiad a trio llnau heb iddi weld. Os ydi hi yn eich dal yn llnau bethbynnag, cewch deimlo min ei thafod wrth iddi eich ceruddo am beidio llnau yn y lle cyntaf.
Mi oedd fy mam mewn mŵd felna heddiw. Ac felly tra mae hi'n y gwaith, dwi wedi bod yn llnau. Hwfro, golchi llestri, cuddiad popeth all ei gwylltio mewn corneli* a gobeithio y bydd popeth yn iawn phan daw adra i'r gwaith mewn rhyw 2 awr. Achos tydwi ddim eisiau mam bod yn flin eto, dio ddim yn neis i fi na dad. Yn ychwanegol i hyn, mae dad yn mynd i weithio i ffwrdd am wythnos yfory a tydwi ddim eisiau i mam fod yn flin ar eu noson olaf gyda'u gilydd.
Mae hwn yn enghraifft o fi yn poeni gormod. Ond mae mam yn gwylltio wedi golygu mod i wedi llnau'r ty yn llawer gwell na fuaswn wedi ei wneud petai hi wedi jesd gofyn i mi wneud. Sydd, i raddau helaeth yn profi od gwylltio yn gweithio....
Pwy ydwi i ddweud nad ydwi'n cael fy rheoli gan ofn?!
Hwyl a sbrii
*dwim yn dda iawn yn llnau....
Share And Share Alike
1 day ago

1 ymateb:
Halen yn ei uwd hi !
Post a Comment