22.10.08

weithiau

Rwy'n poeni weithia mai'r label mwya poblogaidd ar fy mlog yw "meddwi". Rwy'n poeni fod pobl yn meddwl mod i'n alcaholic. Rwy'n poeni fod pobl yn meddwl fod rhaid i mi yfed alcahol er mwyn cael hwyl. Rwy'n poeni nad yw pobl yn dallt mod i'n sgwennu am yr amser rwy'n meddwi yn aml gan mai dyna'r amser rwyn cael y straeon gorau i'w dweud.

Rwy'n poeni weithiau fod y label "gwaith" yn dal i fyny efo "meddwi". Rwy'n poeni fod pobl yn meddwl mod i'n work-aholic. Mae hynny yn bell o fod yn wir. Rwy'n poeni hefyd fod llawer o'r blogiau "gwaith" yn trafod y ffaith nad ydwi'n gweithio. Rwy'n gweithio'n galed iawn, oni bai am yr amser pan dwi ddim.

Rwy'n poeni weithiau mod i'n blogio ddwywaith mor aml am "fi" nag ydwi am y "teulu". Rwy'n pryderu fod bobl yn fy ngweld yn hunanol. Rwy'n poeni fod y darllenwyr i'r blog ma yn meddwl mod i'n poeni mwy amdanai nag am fy nheulu.

Ond mwy na dim arall, rwy'n poeni fod "te" ar waelod y rhestr. Mae'n rhaid i ddarllenwyr y blog yma ddallt mod i'n caru te bron gymaint a f'annwylyd; mwy pan mae'r baned yn un neis. Rwy'n poeni nad yw te yn cael y sylw y mae'n haeddu yn y blog yma a'r byd, am fod yn un o'r diodydd mwyaf hyfryd erioed. Mae'n rhaid i mi fod yn y mwd am beint, mae te am byth.

Hwyl a Sbrii

2 ymateb:

Chris Cope said...

Dyna pam symudais i Gymru: haws i gael te. A phaid â phoeni am beth mae pobl yn meddwl amdanat ti -- does neb yn darllen blogiau bellach, ac eithrio fi. A gwn i taw alcoholig wyt ti.

Hogyn o Rachub said...

Ti'n poeni gormod 'chan. P'un bynnag, er mor wych 'di panad, 'sdim hynna faint i ddweud am y peth!