11.11.08

Morbid?

Annwyl syr/madam

Ymddiheuraf am ysgrifennu mor ffurfiol. Mae'n debygol iawn fy mod yn eich adnabod yn dda, ond gan nad ydwyf yn gwybod pwy ydych chi eto oherwydd na allaf weld i'r dyfodol, mi'ch cyfeiriaf tuag atoch yn ffurfiol fel hyn.

Mae gennych swydd anodd, rwy'n ymddiheuro am hyn. Ond fel person sydd fwy na thebyg yn agos iawn ataf, mi fyswn yn ddiolchgar iawn petaech yn trefnu angladd gwerth chweil i mi gan fy mod yn, wel, gwych!

Nid ydwi'n ysgrifennu atoch er mwyn creu trafferth; dyna'r peth olaf sydd ar fy meddwl. Tydwi ddim eisiau rhestru pop manylun am f'angladd fy hun - rwy'n eich ymddiried yn llwyr gogyfer a hynny.

Ysgrifennu atoch ydwi, er mwyn datgelu mod wedi dewis can angladd. Dyma'r oll mae'r ifanc yn meddwl am angladd - pa gan a gaiff ei chwarae sydd yn mynd i grisialu fy mywyd i'r dim. Ac felly rwyf innau; yn ifanc ac o'r diwedd wedi penderfynnu.

Yn anffodus annwyl drefnwr, dyw'r gan ddim ar unrhyw cd hyd yn hyn. Felly bydd rhaid, os nad yw'r band yn rhyddhau albwm arall, i'r band chwarae yn yr angladd. Ond na phoener, rwyf wedi gwneud cymwynas a chwi gogyfer a hyn - rwy'n adnabod y band yn gymharol dda. 'Chi'n gweld mae'r gan rwyf ei heisiau yn gan gan cowbois rhos botwnnog - celwydd golau.

Rwyf wrth fy modd a'r gan. Petai hi ddim yn gan mor anhygoel o drist, mi fuaswn yn ei chael fel can briodas, ond gan mai cariad yw'r celwydd, nid addas mohoni.

Felly pan fydd fy nghorff yn llosgi, gan mai dyna yw fy nymuniad, rwyf eisiau'r gan yma i gael ei chwarae. Rwy'n ymddiheuro i'r band am sbwylio'r gan

Am nawr bethbynnag, Hwyl a sbrii

1 ymateb:

Walesfforwm said...

Dwi wedi mwynhau darllen eich blog, a llongyfarchiadau gyda'i lwyddiant. Ond, dwi yn sylwi eich bod chi yn ffocysu ar faterion sydd yn ymwneud â Chymru.

Baswn i'n ddiolchgar os buasech chi'n tynnu sylw aelodau a chyfranwyr at ein prosiect newydd. Mae'n gais di-elw i geisio creu fforwm ar gyfer Cymru gyfan lle mae barn pawb ynglŷn ag unrhyw beth Cymraeg neu sydd yn digwydd yng Nghymru yn gyfartal, lle gallent trafod heb sylwadau sarhaus a bygythiol. Nid ydym yn ffafrio unrhyw safbwynt gwleidyddol na'n rhoi lan gyda unrhyw anghwrteisi ( hyn yn beth cyffredin yn anffodus y dyddiau yma)

Rydym yn croesawu pobl o bedwar ban byd, does dim gwahaniaeth ar eu ethnigrwydd, safbwyntiau crefyddol, crefydd neu rhyw. Os mae rhywbeth dechau ganddynt i ddweud, a'i fynegi wrth ystyried a pharchu eraill bydd wastad croeso ar Walesfforwm iddynt.

Mae ein staff i gyd yn gwirfoddolwyr, a bydd y cymedrolwyr yn cadw safonau uchel wrth gymedroli'r safle heb unrhyw beias gwleidyddol sail eu penderfyniadau.

Os rydych yn credu bydd hyn o unrhyw ddiddordeb i eich aelodau, a wnewch chi gyfeirio nhw at

WalesFforwm.com . Bydd Croeso Cynnes iddynt.