Petawn i'n byw ar fy mhen fy hun mi fuaswn i'n dew iawn iawn. Mi fuasai'r ty yn lan iawn, mid fuaswn i wedi darllen pob llyfr yn y byd, mi fuaswn i'n sgwennu hydynoed mwy na dau flog (ac yn amlach na unwaith bob sul pys) a mi fuaswn i wedi gwylio pob cyfres deledu sydd yn mynd.
Dyna'r canlyniad dwi wedi ei gyrraedd ar ôl un noson ar fy mhen fy hun.
Tydwi erioed wedi byw ar fy mhen fy hun. Byw efo mam a dad, byw ym mhantycelyn, byw efo ffrindia yn Aberystwyth, byw efo mam a dad eto a rwan byw efo f'annwylyd. Anamal iawn ydwi wedi treulio 24 awr yng nghwmni fi fy hun.
Un noson ar fy mhen fy hun a be dwi'n neud?! Bwyta 2 pizza (doedd wir ddim angen yr ail un ond roedd y cynta mooor neis), gwylio lot o deledu, gwylio demon headmaster ar youtube a bod yn fy ngwely erbyn 10 er nad oeddwn wedi blino yn darllen.
Dwi adra ben fy hun eto heno ond wchi be? Dwi'n mynd i'r pyb. Hwyl a sbrii
To sleep, perchance to dream
5 hours ago

0 ymateb:
Post a Comment