5: Bochau'n cyffwrdd, geiriau'n disgyn, cwympo, o geg. Sisial geiriau'n suo, llais yn llonyddu. Eiliad yn tyfu, yn ymestyn i anfeidredd
4: Bochau'n cochi dan anadl rhywun arall. Calon yn cyflymu, calon yn sdopio.
3: Llygaid yn cwrdd a'r byd yn diflannu mewn niwl. Dim ond llygaid a hanner gwen, a thrwyn yn y canol wrth sgwrs. Does dim lliw yn y llygaid, does dim lliwiau yn bodoli mwyach, dim ond llygaid a niwl a thrwyn a cheg.
2: Tawelwch methu curiad calon. Dim ond swn hanner anadl yn mynd ar goll rhywle mewn gwefusau sych cyn cael dianc i'r aer. Ceg yn methu gwenu ond yn methu peidio chwaith.
1: Cysgodion yn cwrdd. Dim cyffwrdd, dim ond cwrdd. Cysgod dau wyneb ynteu fâs o wair melyn? Cewri yng ngolau oren yr haul machlud isel. Cysgodion yn cwrdd. Dim cyffwrdd, dim ond cwrdd.
6: Dim cyffwrdd mwyach. Cysgodion yn pellhau, amser yn ôl i'w tic toc arferol diflas. Dim bochau coch, dim curiad calon. Dim gwen, dim deigryn. Dim ond atgof sisial geiriau laddodd gobaith breuddwyd.
To sleep, perchance to dream
1 hour ago

0 ymateb:
Post a Comment