Beth mae rhywun fod i wneud gyda 6 wythnos o wyliau? Dydwi ddim yn cwyno plis peidiwch a chamddallt; dwi jesd ddim eisiau ei wastraffu!
Dwi'n mynd ar wyliau am un ohonyn nhw, i ffrainc gyda 12 o'm ffrindiau. Felly dyna ni wythnos wedi mynd o'r 6 ac wythnos arall ddychmygwn i rhwng y trefnu a'r llnau ar ôl dod yn ôl.
4 wythnos ar ôl.
Fy mhroject cynta yw llnau'r ty. Oherwydd fod hynny yn dasg mor enfawr (dio ddim, ond maisho mynadd), dwi di penderfynnu gwneud un sdafell ar y tro. Wythnos arall (yn cynnwys diwrnod o orffwys) wedi mynd.
3 wythnos.
Dwi'n gwybod y gwnaiff y 3 wythnos olaf ma ddiflannu cyn i mi droi rownd, ond yn anffodus diflannu wneith o yn gwneud pethau dibwrpas. Ar gychwyn cyfnod mor briliant o wyliau, dwi ddim isho mynd yn ôl i'r ysgol fel dwi'n gwneud wedi pob gwyliau arall, a phan mae rhywun yn gofyn i mi be wnesh i dros y gwyliau, ateb "dim byd llawer sdi, oddon neis"
Sliding memories
18 hours ago

1 ymateb:
Helo na Weidro!
Ma Golwg360.com wedi creu blog ei hun sy'n cael ei ddiweddaru yn ddyddiol. Mae Golwg360.com wedi gosod linc i dy flog di...o oes modd i ti estyn y cymwynas yn ol?
Diolch
Golwg360.com
Post a Comment