19.9.10

All quiet on the bloggin front

Dwi'n ymddiheuro am y tawelwch. Fy esgus eto fyth yw diffyg ysbrydoliaeth. Ond, y tro hwn mae'r esgus yn glwyddau braidd.

Dwi heb deimlo mor ysbrydioledig a hyn ers amser maith. Mi oedd y seidar yng ngwyl gwydir wythnos dwetha yn llawn syniada am ganeuon, am flogiau, am ffyrdd o fyw. A'r hangover anochel wedyn yn urddasol iawn wrth ddarllen papur ar lan yr afon Conwy, yn fy ysbrydoli i fod gymaint mwy nag ydwi.

Dyddia' yma ma hyd yn oed y cerddoriaeth dwi'n pwmpio mewn i'ng nghlustia cofn i mi orfod diodda eiliad o dawelwch yn fy ysbrydoli. Dwi'n hapusach dyddia yma ar fy mhen fy hun gyda gwifren o bob clust yn dawnsio lawr y stryd. Dosa'm bwys gin i pwy sy'n edrych achos yn fy mhen i, yn fy myd bach twt i, mae popeth yn ffitio pan mae 'na diwn i'w gyfeilio. A dwi'n barod i gyfrannu at y cyfeiliant hwnnw.

Hynny yw, tan i mi eistedd lawr i wneud rhywbeth am y peth. Dwnim sawl gwaith dwi wedi eistedd i lawr wythnos yma i drio rhannu ychydig o'r ysbrydoliaeth ma. Bob tro dwi'n trio, mae'r laptop, neu'r gitar, neu'r piano, yn edrych yn ôl arnai ac yn fy herio.

Go on en

A does dim byd ddigon da wedyn. Dyw fy syniadau ddim digon i newid y byd unwaith manw allan o'm mhen i.

Ac felly ddarllenwr, dyma fy esgus am ddifyg blogio. Nid diffyg ysbrydiliaeth ond diffyg gallu i'w ddefnyddio. Yr holl ysbrydoliaeth a'r oll allai wneud gyda'r peth yw sgwennu blog or flodeuog. Sori guys.

Hwyl a sbrii

0 ymateb: