Am 2 o'r gloch nos Sadwrn/bore Sul, tra'n fwy meddw na sobor, mi oedd canu ar dop fy llais yn syniad o mor dda.
"Pa mor ddoniol" neu geiriau o'r fath "fysa hi, swni'n colli'n llais ac yn methu gweiddi dydd Llun yn ysgol?!"
Mi geshi annwyd ddydd Sul cynt, a mi odd ysgol dydd Llun wedyn yn amhleserus wrth dishan a sniffio dros bawb ond erbyn dydd Mawrth mi oeddo'n well. Nos Fercher wedyn, a mina bron yn well, BAM! Dyma na annwyd newydd, gwaeth yn taro! Ych, dyna deimlo'n afiach unwaith eto, gyda dolur gwddw wedi ymuno yn y parti. Mi ofynodd disgybl i mi os oeddwn i'n crio ar un adeg. Na, dim ond tisian.
Ond, roedd rhaid aros yn ysgol, a rhaid dysgu gan deimlo'n ofnadwy oherwydd pan gyrhaeddodd y penwythnos, roedd Aber yn galw.
Doeddwn i ddim yn edrych ymlaen i gael penmawr ac annwyd, ond wyddoch chi be?! All was well. Mi oedd y llais yn torri, ond doedd huna ddim byd!
A dyma ni wedi cyrraedd nos Sadwrn, a'r canu a'r gweiddi. A rwan? Dwi'n pesychu dros y disgyblion braidd.
Ond dyna chi wicend gwych yn Aber! Hwyl a sbrii
The most difficult job in the world
1 hour ago

0 ymateb:
Post a Comment