10.10.10

Mi oedd hyfryd

Mae'n gwestiwn pwysig mae pawb yn meddwl amdano. Beth i gael fel pryd olaf, petai gennych chi'r cyfle i ddewis?

Dwi'n hoffi'r stori tu ôl fy newis i, dwi'n licio'r ffaith fod na stori.

Noson olaf un o'r coleg oedd hi, a pawb, yn amlwg wedi bod am beint neu chwech. A fel pobl cyfrifol, call, dyma benderfynu peidio prynu kebab, ond coginio'n feddw adra. Gan mai sdiwdant tlawd oeddwn i, supernoodles oedd ar y fwydlen.

Trwy coleg, pasta oedd y bwyd oeddwn i'n ei goginio amlaf. Pasta, sôs o rhyw fath a caws wedi gratio ar y top. Felly wrth goginio nwdl, y temptasiwn wasdad oedd gratio caws ar y top. Am syniad gwirion wir!

Ond, pan wedi meddwi ac yn coginio, dyma ddatgelu wrth fy ffrind beth oedd y demptasiwn. Ac mewn moment sydd megis golygfa mewn ffilm, dyma fy ffrind yn dweud "tria fo, ella fydd o'n neis, ac os neidi ddim, neidi ddifaru am byth" (geiriau tebyg i hyn bethbynnag, rhaid i chi gofio fod na chydig o alcahol yn y corff ar y pryd)

Felly dyma drio, ac mi oedd hyfryd.

A wyddoch chi be? Nid yr alcahol oedd o; mae o dal yn hyfryd. A dwi'n ddiolchgar iawn i'm ffrind, a mi fyddai am byth, am wneud i mi drio rhywbeth sydd o mor hyfryd. Mae o mor neis, dwi di buta dau heddiw. Ffati Ffati Hapi.

Hwyl a sbrii

0 ymateb: