29.11.10

y Fo

Ers i mi benderfynnu gwneud y blog ma fwy dienw (oni bai am y bobl sydd yn fy adnabod yn barod), dwi wedi galw fy nghariad yn f'annwylyd oherwydd fy mod i'n hoffi'r syniad o alw fo yr un peth bob tro fel 'ch bod chi'n gwybod pwy dwi'n siarad amdano heb i mi ei wir enwi.

Tan i rywun ddweud hyn ar fy mlog saesneg;
it makes it difficult for anyone other than yourself to refer to him if you keep the existing name. For example, if I ask: "Hey, how's my beloved today?"

Sydd yn bwynt anheg o deg. Fair point damn you.

A dyma pam y tawelwch. Dwi 'di bod yn trio meddwl am enw newydd i'ng nghariad ar hwn. Gyda mi wedi setlo gyd f'annwylyd ers cyn hired, mae'n anodd newid y patrwm, ond ar y llaw arall mae "f'annwylyd" wedi ei suro rwan, a ma rhaid cal enw, syml ond effeithiol.

Beth, felly, am y Fo? Di huna'n iawn misdyr/misus ffysi?!

Mae o dal yn mynd i fod yn f'annwylyd wrth dagio so pwww i chi.

Hwyl a sbrii

2 ymateb:

Anonymous said...

Rhyfedd i ti sôn. Ddoe ddwytha ro'n i'n trafod yr union fater hwn ac yn dweud mod i'n licio'r ffordd rwyt ti'n galw dy gariad yn "f'anwylyd". Dal ati!

Wierdo said...

Wel diolch yn fawr mr/ms dienw!