9.12.10

Cowboi

Heddiw, dwi'n gowboi. Gyda fy nghrys/blows siec, fy denim a fy bŵts brown, dwi'n teithio o'r gorllewin gwyllt i'r gogledd ddwyrain, i'r eira i'r anhysbys. Fy nghart yw'r 6:02 o Fangor a mae'r awyr yn rhewi.

Drws nesa i mi yn y cart mae bachgen rhu ifanc i'w siwt. Prin allan o'i napis dybiwn, mae o yna ar ei laptop sydd bron ddigon bach i'w lyncu drwy ddamwain. Mae o'n smalio gwneud gwaith ond dwi'n gwybod mai chwara rhiw gem telitybis mae o go iawn. Enwi lliwiau a cyfri i dri ac ati.

Ym mlaen y cart, ddigon agos i ddal cynffon y ceffyl, mae na gwpwl poleit siaradodd i mi am ychydig. Clên iawn oedden nhw hefyd ond yn siarad am bethau lot rhu gymhleth am 6 y bore. Go iawn, isho darn o fy nghorn bîff oedden nw, mi wn i'r gwir.

Heddiw dwi'n gowboi yn teithio i'r anhysbys. Tren yw fy ngheffyl a het wlân yw fy het a dwi'n mentro yn unig i Fanceinion am gwrs.

Hwyl a sbrii

0 ymateb: