21.2.11

Tai

Un o'r pethau gorau am fyw mewn pentref drud ydi pasio tai sydd ar werth, mynd adra, a gweld beth yw'r pris. £100,000 am apartment 1 llofft?! £140 am dŷ bler dau llofft reit yn ymyl y lôn?! Hahaha!

Ond, wedyn, dwi ar y wefan gwerthu tai yndydw? Wnaiff o ddim drwg i mi i edrych ar dai mwy fforddiadwy...?

Deni di bod yn gweld 3 ty hyd yn hyn. Y cyntaf oni'n licio ond doedd o ddim, yr ail oedd yr un oedd yn fwy o grac na tŷ (ond doeddwn i ddim yn ei hoffi bethbynnag!) a'r trydydd....

Y trydydd, wan dyma i chi broblem. Dwi'n ei hoffi o, a mae o'n ei hoffi ond dydym ni methu fforddio tŷ! Does gan yr un ohonym ni ddigon o arbedion i gael ty, does ganddo fo ddim swydd felly buasai'n rhaid cael morgais ar fy nhâl i'n unig. Ond mae'r tŷ yn neis. Mae'n cael ei werthu mewn ocsiwn ym mis Ebrill sydd yn sgeri iawn iawn, ond dwi am fynd i'r banc i siarad heddiw.

Plis plis gai bres?!

Hwyl a sbrii

0 ymateb: