Wan ma'r gair lwmp yn gwneud i unrhywun banicio dydi? Dim ots lle mae o, mae rhywun yn neidio i'r canlyniad amlwg. Felly ffwr a fi i'r doctor mor gyflym a allwn i.
Ffat. Braster. Lwmp o ffat ar fy ysgwydd. Lyfli. Mi allwn i gael gwared ohono fo, ond gan fy mod i ofn ysbytai, a gan fy mod wedi ei enwi bellach, aros wnaeth "plod" a dod yn ffefryn i ddychryn bobl pan yr oeddwn yn feddw.
Dwi ddim cweit yn shwr beth newidiodd fy meddwl. Ychydig oherwydd nad ydi o'n ei hoffi (o gwbwl) ac ychydig oherwydd ei fod yn tyfu, penderfynnais gael gwared o plod annwylyd.Es i am yr op dydd Llun, ac ar ôl aros am 5 awr, mewn a fi. Lot o bobl neis iawn yn gofyn yr un cwestiyna drosodd a drosodd, tan i bopeth ddechra mynd yn fyzi. Wedyn gofyn i mi be odd pi
"3.1415926535 to 10 decimal places"
"and again"
"3.1415926535"
"again?"
"3.14159....."
Mi fysa cyfri lawr o ddeg di neud y tro i mi yn ffein, ond dyna ni.
Deffro wedyn di drysu'n llwyr, ond popeth yn ffein ac adra a fi i gael fy nghadw mewn cotton wool ganddo fo tan i mi wella.
Ddoe onin teimlo'n erchyll - fatha fod gin i'r ffliw. Buodd rhaid i mi fynd yn ôl i'r sbyty yn poeni mod am rash oedd yn datblygu drostai gyd. Dwi'n lyrjic i wbath ond duw a wr beth.
Heddiw, dwin well, ond dal yn teimlo'n wael. Dwi di gorfod cymryd diwrnod arall oddi ar ysgol yfory a dwi di rhedeg allan o ffilms a petha i neud ar y wê.
Gai plod yn ôl plis? Onin teimlo'n well efo fo.
Ond oleia fydd gin i scar osym pan ma'r stitches di gwella. Fyddai'n edrach atha peirot!
Hwyl a sbrii

2 ymateb:
Sori clywed am dy drafferthion. Gobeithio dy fod di'n yeimlo bach yn well heddi, a ddim yn gweld eisiau plod cymaint.
Diddorol oedd darllen am 'peirot'. Mae gen i rhywbeth tebyg ar fy ngarddwrn ers pan oeddwn yn 'rysgol...amser maith yn ôl lol.'Roedd o'n brifo weithiau , ac yn handi iawn i ddefnyddio fatha esgis dros beidio gwneud gym!Es am xray a ffeindio mai 'ganglion' oedd o. Ac mae o dal gen i....
Gobeithio dy fod wedi dod dros y llawdriniaeth xx
Post a Comment